Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

7Is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ar wahân i’r rhai a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –

(a)gofyniad i gyflwyno is-ddeddfau ar gyfer cael cadarnhad;

(b)cyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud yr is-ddeddf;

(c)cyhoeddi’r is-ddeddf;

(d)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.

(3)Cyn iddo wneud is-ddeddf y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i awdurdod –

(a)cyhoeddi ar wefan yr awdurdod ddatganiad ysgrifenedig cychwynnol sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gellir mynd i’r afael ag ef drwy wneud is-ddeddf;

(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n gael ei effeithio ganddo.

(4)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.

(5)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –

(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;

(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;

(c)ei benderfyniad;

(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(6)Rhaid i is-ddeddfau a wnaed gan yr awdurdod deddfu gael eu cyflwyno i’r awdurdod cadarnhau ac nid ydynt yn cael effaith oni chânt a nes y cânt eu cadarnhau gan yr awdurdod cadarnhau.

(7)O leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid cyhoeddi hysbysiad o fwriad yr awdurdod deddfu i wneud hynny –

(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;

(b)ar wefan yr awdurdod.

(8)Am o leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno’r is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid i’r awdurdod deddfu sicrhau –

(a)bod yr is-ddeddf yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod;

(b)bod copi o’r is-ddeddf yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod (ac, yn achos is-ddeddf a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mewn man yn ardal pob cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal);

(c)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf;

(d)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.

(9)Rhaid i’r awdurdod deddfu roi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(10)Caiff yr awdurdod cadarnhau gadarnhau, neu wrthod cadarnhau, unrhyw is-ddeddf a gyflwynir iddo o dan yr adran hon.

(11)At ddibenion y Ddeddf hon, yr awdurdod cadarnhau yw –

(a)y person a bennir yn y deddfiad y gwneir yr is-ddeddfau odano fel y person sydd i gadarnhau’r is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir unrhyw berson, Gweinidogion Cymru.

(12)Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan is-adran (11)(b) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol.