6Is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.
(2)Cyn iddo wneud is-ddeddf, rhaid i awdurdod –
(a)cyhoeddi datganiad ysgrifenedig cychwynnol ar wefan yr awdurdod sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gallai gwneud is-ddeddf fynd i’r afael ag ef;
(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo hynny’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n cael eu heffeithio ganddo.
(3)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.
(4)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –
(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;
(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;
(c)ei benderfyniad;
(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.
(5)O leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i wneud yr is-ddeddf –
(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;
(b)ar wefan yr awdurdod.
(6)Am o leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid i’r awdurdod sicrhau –
(a)bod drafft o’r is-ddeddf yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod;
(b)bod copi o’r drafft yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod;
(c)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;
(d)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf.
(7)Rhaid i’r awdurdod roi copi o’r is-ddeddf ar ffurf ddrafft i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).
(8)Ni chaiff awdurdod wneud is-ddeddf yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad yn is-adran (5).