- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016, Adran 323.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
323. O flaen Atodlen 1 mewnosoder y canlynol—LL+C
1. Mae adran 50 (taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn), 51 (taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentyn) a 53 (taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach) yn gymwys mewn perthynas ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ond fel pe bai’r addasiadau a ganlyn wedi eu gwneud i’r adrannau hynny.
2. Yn lle is-adran (1) o adran 50 rhodder—
“(1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i oedolyn y mae adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r oedolyn o dan yr adran honno.”
3. Yn is-adran (3) o’r adran honno—
(a)ym mharagraff (a), yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”)” rhodder “mewn cysylltiad â darparu i’r oedolyn (“A”) wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a
(b)ym mharagraff (c)(i), yn lle “o ddiwallu anghenion A” rhodder “o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.
4. Yn is-adran (4) o’r adran honno—
(a)ym mharagraff (a), yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”)” rhodder “y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddo (“A”)”, a
(b)ym mharagraff (d)(i) yn lle “o ddiwallu anghenion A” rhodder “o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.
5. Yn is-adran (5) o’r adran honno—
(a)ym mharagraff (a), yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a
(b)ym mharagraff (b), yn lle “tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.
6. Yn is-adran (6)(b) o’r adran honno, yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.
7. Yn lle is-adran (1) o adran 51 rhodder—
“(1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson mewn cysylltiad â phlentyn y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r plentyn o dan yr adran honno.”
8. Yn is-adran (3)(a) a (b) o’r adran honno, yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddo”.
9. Yn is-adran (5)(a) o’r adran honno, yn lle “ddiwallu anghenion y plentyn” rhodder “gyflawni ei ddyletswydd tuag at y plentyn o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.
10. Yn is-adran (1) o adran 53—
(a)yn y geiriau agoriadol, yn lle “50, 51 neu 52” rhodder “50 neu 51”,
(b)hepgorer paragraffau (a), (b) ac (c),
(c)ym mharagraff (i), yn lle “y disodlir odanynt ddyletswydd neu bŵer awdurdod lleol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, neu anghenion gofalwr am gymorth, drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y disodlir y ddyletswydd honno neu’r pŵer hwnnw” rhodder “y cyflawnir odanynt ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal), drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y cyflawnir y ddyletswydd honno”, a
(d)ym mharagraff (k), yn lle “50 i 52” rhodder “50 neu 51”.
11. Hepgorer is-adrannau (2) i (8) o’r adran honno.
12. Ar ôl is-adran (8) o’r adran honno mewnosoder—
“(8A) Rhaid i reoliadau a wneir o dan adrannau 50 a 51 bennu bod rhaid i daliadau uniongyrchol i dalu’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau hynny i ddiwallu’r anghenion hynny.”
13. Yn is-adran (9) o’r adran honno—
(a)yn lle “, 51 neu 52” rhodder “neu 51”, a
(b)yn lle “gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth)” rhodder “gwasanaethau ôl-ofal”.
14. Yn lle is-adran (10) o’r adran honno, yn lle “ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) i ddiwallu anghenion” rhodder “wasanaethau ôl-ofal”.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 323 mewn grym yn dod i rym yn unol â , gweler rhl. 2(1)(6)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys