xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 67(4))

ATODLEN 2LL+CGOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

RHAN 1LL+CSTATWS

StatwsLL+C

1(1)Nid yw GCC i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo GCC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron, nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

RHAN 2LL+CAELODAETH

AelodauLL+C

2(1)Mae GCC i gael—

(a)aelod i gadeirio GCC (“yr aelod-gadeirydd”), a

(b)dim mwy na 14 o aelodau eraill.

(2)Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau GCC.

(3)Ni chaniateir i berson sy’n aelod o staff GCC gael ei benodi’n aelod o GCC ac ni chaiff person o’r fath ddal swydd fel aelod o GCC.

(4)Mae aelodau GCC i ddal swydd ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.

(5)Cyn gwneud penodiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb penodi aelodaeth amrywiol sydd â mwyafrif o bersonau nad ydynt, ac nad ydynt wedi bod, yn weithwyr gofal cymdeithasol neu’n gynrychiolwyr gweithwyr gofal cymdeithasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Tâl etc. aelodauLL+C

3(1)Caiff GCC dalu i’w haelodau unrhyw dâl, treuliau a lwfansau y mae Gweinidogion yn penderfynu arnynt.

(2)Mae GCC i dalu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw bensiwn, lwfans neu arian rhodd y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt i berson sy’n aelod o GCC, neu sydd wedi bod yn aelod o GCC, neu mewn cysylltiad â pherson o’r fath.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn iawn i berson sy’n peidio â dal swydd fel aelod-gadeirydd GCC gael digollediad, rhaid i GCC dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu i’r person unrhyw ddigollediad y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Tymor y swyddLL+C

4Mae person a benodir yn aelod o GCC yn dal swydd am unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno wrth wneud y penodiad; ond ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy na 4 blynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

YmddiswyddoLL+C

5(1)Caiff yr aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff ymddiswyddo—

(a)fel aelod-gadeirydd, neu

(b)fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.

(3)Caiff aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

DiswyddoLL+C

6(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo’r aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—

(a)ei fod yn anaddas i barhau’n aelod-gadeirydd, neu

(b)nad yw’n gallu gweithredu fel aelod-gadeirydd neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Cânt ddiswyddo’r aelod-gadeirydd o’i swydd—

(a)fel aelod-gadeirydd, neu

(b)fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—

(a)ei fod yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’n gallu gweithredu fel aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

RHAN 3LL+CPWERAU CYFFREDINOL

PwyllgorauLL+C

7(1)Caiff GCC sefydlu pwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgorau a sefydlir o dan is-baragraff (1) sefydlu is-bwyllgorau.

(3)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o GCC neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

(4)Caiff GCC dalu tâl, treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

(b)nad yw’n aelod o GCC nac yn aelod o’i staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I14Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

DirprwyoLL+C

8(1)Caiff GCC drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau,

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i staff.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb GCC am arfer swyddogaethau dirprwyedig nac ar ei allu i arfer swyddogaethau dirprwyedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I16Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Pwerau atodolLL+C

9Caiff GCC wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I18Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

RHAN 4LL+CTRAFODION ETC.

GweithdrefnLL+C

10(1)Mae GCC i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm); ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon ac unrhyw reoliadau a wneir odani.

(2)Mae GCC i reoleiddio gweithdrefn (gan gynnwys cworwm)—

(a)ei bwyllgorau, a

(b)ei is-bwyllgorau.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I20Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Gosod y sêlLL+C

11(1)Caiff GCC fod â sêl.

(2)Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)unrhyw aelod o GCC, neu

(b)unrhyw berson arall a awdurdodir gan GCC at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I22Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

TystiolaethLL+C

12Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl GCC neu wedi ei llofnodi ar ei ran i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ei chymryd fel ei bod wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I24Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

RHAN 5LL+CPRIF WEITHREDWR A STAFF ERAILL

Prif weithredwr a staff eraillLL+C

13(1)Rhaid i GCC benodi prif weithredwr.

(2)Caiff GCC benodi unrhyw staff eraill sy’n briodol yn ei farn ef; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 81 (dyletswydd GCC i benodi cofrestrydd).

(3)Cyflogir person a benodir yn brif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau y mae GCC yn penderfynu arnynt; ond mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r penodiad (gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau’r penodiad).

(4)Cyflogir unrhyw staff eraill a benodir o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau y mae GCC yn penderfynu arnynt; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch lefelau’r tâl, y pensiynau, y lwfansau a’r treuliau sy’n daladwy i staff o’r fath, neu mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I26Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

RHAN 6LL+CMATERION ARIANNOL AC ADRODDIADAU BLYNYDDOL ETC.

Taliadau gan Weinidogion CymruLL+C

14Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i GCC o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau ac ar unrhyw amodau (os oes rhai), sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I28Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Swyddog cyfrifydduLL+C

15(1)Mae’r prif weithredwr i weithredu fel swyddog cyfrifyddu GCC.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid GCC, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid GCC;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd GCC o’i adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I30Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Cyfrifon ac archwilioLL+C

16(1)Rhaid i GCC ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)ym mha fodd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I32Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Adroddiadau blynyddol etc.LL+C

17(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd ei swyddogaethau eu harfer yn ystod y flwyddyn honno (“adroddiad blynyddol”).

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl i adroddiad blynyddol gael ei gyhoeddi, rhaid i GCC anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i GCC ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw adroddiadau eraill a gwybodaeth arall sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I34Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)