ATODLEN 2GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU
RHAN 1STATWS
I1I181Statws
1
Nid yw GCC i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.
2
Nid yw eiddo GCC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron, nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.
RHAN 2AELODAETH
I2I192Aelodau
1
Mae GCC i gael—
a
aelod i gadeirio GCC (“yr aelod-gadeirydd”), a
b
dim mwy na 14 o aelodau eraill.
2
Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau GCC.
3
Ni chaniateir i berson sy’n aelod o staff GCC gael ei benodi’n aelod o GCC ac ni chaiff person o’r fath ddal swydd fel aelod o GCC.
4
Mae aelodau GCC i ddal swydd ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.
5
Cyn gwneud penodiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
6
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb penodi aelodaeth amrywiol sydd â mwyafrif o bersonau nad ydynt, ac nad ydynt wedi bod, yn weithwyr gofal cymdeithasol neu’n gynrychiolwyr gweithwyr gofal cymdeithasol.
I3I203Tâl etc. aelodau
1
Caiff GCC dalu i’w haelodau unrhyw dâl, treuliau a lwfansau y mae Gweinidogion yn penderfynu arnynt.
2
Mae GCC i dalu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw bensiwn, lwfans neu arian rhodd y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt i berson sy’n aelod o GCC, neu sydd wedi bod yn aelod o GCC, neu mewn cysylltiad â pherson o’r fath.
3
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn iawn i berson sy’n peidio â dal swydd fel aelod-gadeirydd GCC gael digollediad, rhaid i GCC dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu i’r person unrhyw ddigollediad y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno.
I4I214Tymor y swydd
Mae person a benodir yn aelod o GCC yn dal swydd am unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno wrth wneud y penodiad; ond ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy na 4 blynedd.
I5I225Ymddiswyddo
1
Caiff yr aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
2
Caiff ymddiswyddo—
a
fel aelod-gadeirydd, neu
b
fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.
3
Caiff aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
I6I236Diswyddo
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo’r aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—
a
ei fod yn anaddas i barhau’n aelod-gadeirydd, neu
b
nad yw’n gallu gweithredu fel aelod-gadeirydd neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.
2
Cânt ddiswyddo’r aelod-gadeirydd o’i swydd—
a
fel aelod-gadeirydd, neu
b
fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.
3
Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—
a
ei fod yn anaddas i barhau’n aelod, neu
b
nad yw’n gallu gweithredu fel aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.
RHAN 3PWERAU CYFFREDINOL
I7I247Pwyllgorau
1
Caiff GCC sefydlu pwyllgorau.
2
Caiff pwyllgorau a sefydlir o dan is-baragraff (1) sefydlu is-bwyllgorau.
3
Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o GCC neu fod â phersonau o’r fath yn unig.
4
Caiff GCC dalu tâl, treuliau a lwfansau i unrhyw berson—
a
sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a
b
nad yw’n aelod o GCC nac yn aelod o’i staff.
I8I258Dirprwyo
1
Caiff GCC drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—
a
o’i bwyllgorau,
b
o’i is-bwyllgorau,
c
o’i aelodau, neu
d
o’i staff.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb GCC am arfer swyddogaethau dirprwyedig nac ar ei allu i arfer swyddogaethau dirprwyedig.
I9I269Pwerau atodol
Caiff GCC wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.
RHAN 4TRAFODION ETC.
I10I2710Gweithdrefn
1
Mae GCC i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm); ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon ac unrhyw reoliadau a wneir odani.
2
Mae GCC i reoleiddio gweithdrefn (gan gynnwys cworwm)—
a
ei bwyllgorau, a
b
ei is-bwyllgorau.
I11I2811Gosod y sêl
1
Caiff GCC fod â sêl.
2
Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—
a
unrhyw aelod o GCC, neu
b
unrhyw berson arall a awdurdodir gan GCC at y diben hwnnw.
I12I2912Tystiolaeth
Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl GCC neu wedi ei llofnodi ar ei ran i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ei chymryd fel ei bod wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.
RHAN 5PRIF WEITHREDWR A STAFF ERAILL
I13I3013Prif weithredwr a staff eraill
1
Rhaid i GCC benodi prif weithredwr.
2
Caiff GCC benodi unrhyw staff eraill sy’n briodol yn ei farn ef; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 81 (dyletswydd GCC i benodi cofrestrydd).
3
Cyflogir person a benodir yn brif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau y mae GCC yn penderfynu arnynt; ond mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r penodiad (gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau’r penodiad).
4
Cyflogir unrhyw staff eraill a benodir o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau y mae GCC yn penderfynu arnynt; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch lefelau’r tâl, y pensiynau, y lwfansau a’r treuliau sy’n daladwy i staff o’r fath, neu mewn cysylltiad â hwy.
RHAN 6MATERION ARIANNOL AC ADRODDIADAU BLYNYDDOL ETC.
I14I3114Taliadau gan Weinidogion Cymru
Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i GCC o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau ac ar unrhyw amodau (os oes rhai), sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
I15I3215Swyddog cyfrifyddu
1
Mae’r prif weithredwr i weithredu fel swyddog cyfrifyddu GCC.
2
Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid GCC, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
3
Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
a
cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
b
cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid GCC;
c
cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd GCC o’i adnoddau;
d
cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
e
cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
I16I3316Cyfrifon ac archwilio
1
Rhaid i GCC ar gyfer pob blwyddyn ariannol—
a
cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
b
llunio datganiad o gyfrifon.
2
Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—
a
yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,
b
ym mha fodd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac
c
y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy.
3
Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—
a
Gweinidogion Cymru, a
b
Archwilydd Cyffredinol Cymru.
4
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
a
archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a
b
heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.
I17I3417Adroddiadau blynyddol etc.
1
Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd ei swyddogaethau eu harfer yn ystod y flwyddyn honno (“adroddiad blynyddol”).
2
Cyn gynted â phosibl ar ôl i adroddiad blynyddol gael ei gyhoeddi, rhaid i GCC anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i GCC ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw adroddiadau eraill a gwybodaeth arall sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.