RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL
Codi ffioedd am ddiwallu anghenion
59Pŵer i osod ffioedd
1
Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi i’r awdurdod am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) cymorth o dan adrannau 35 i 45 i ddiwallu anghenion person.
2
Caiff ffi a osodir o dan is-adran (1) gwmpasu dim mwy na’r gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddynt.
3
Ond pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion am fod adran 35(4)(b)(i), 36, 38, 41(2), (4) neu (6)(a)(i), 43(2) neu (4)(a)(i) neu 45 yn gymwys, caiff ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi i’r awdurdod (yn ychwanegol at unrhyw ffi a osodir o dan is-adran (1)) am sefydlu’r trefniadau ar gyfer diwallu’r anghenion hynny.
4
Mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r canlynol—
a
y ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes rhai), a
b
dyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 a 67 (os ydynt yn gymwys).