xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadauLL+C

46Eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudoLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) (gwahardd rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo a’r unig reswm y mae ei anghenion am ofal a chymorth wedi codi yw—

(a)oherwydd bod yr oedolyn yn ddiymgeledd, neu

(b)oherwydd effeithiau corfforol bod yn ddiymgeledd, neu oherwydd yr effeithiau o’r math hwnnw a ragwelir.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(2) i (7) o Ddeddf 1999 yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(4) a (5) o’r Ddeddf honno at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw.

(3)Ond, hyd nes cychwyn adran 44(6) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae is-adran (2) i gael effaith fel pe bai’n darllen fel a ganlyn—

(2)[F1At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(3) a (5) i (8) o Ddeddf 1999, a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi, yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(5) a (7) a’r paragraff hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw].

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth yn cynnwys cyfeiriad at wneud hynny er mwyn diwallu anghenion gofalwr am gymorth.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 46 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

47Eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechydLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gwasanaeth neu gyfleuster y mae’n ofynnol ei ddarparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig â gwneud rhywbeth arall i ddiwallu anghenion o dan yr adrannau hynny, neu’n ategol at wneud hynny.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau gwasanaethau neu gyfleusterau i berson o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny’n gysylltiedig â sicrhau, neu’n ategol at sicrhau, gwasanaeth neu gyfleuster arall i’r person hwnnw o dan yr adran honno.

(3)Caiff rheoliadau bennu—

(a)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau y caniateir, er gwaethaf is-adrannau (1) a (2), eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau y caniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;

(b)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau na chaniateir iddynt gael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau na chaniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;

(c)gwasanaethau neu gyfleusterau, neu ddull ar gyfer dyfarnu gwasanaethau neu gyfleusterau, y mae eu darparu i’w drin, neu i’w beidio â’i drin, fel pe bai’n gysylltiedig neu’n ategol at ddibenion is-adran (1) neu (2).

(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig.

(5)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15.

(6)Ond caiff awdurdod lleol, er gwaethaf is-adrannau (1), (2), (4) a (5), drefnu i lety ynghyd â gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig gael eu darparu—

(a)os yw’r awdurdod wedi cael cydsyniad i drefnu’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan—

(i)pa Fwrdd Iechyd Lleol bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, neu

(ii)pa gorff iechyd Seisnig bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yn Lloegr, neu

(b)mewn achos brys a lle bo’r trefniadau’n rhai dros dro.

(7)Mewn achos y mae is-adran (6)(b) yn gymwys iddo, rhaid i’r awdurdod lleol geisio cael y cydsyniad a grybwyllwyd yn is-adran (6)(a) cyn gynted ag y bo’n ddichonadwy ar ôl i’r trefniadau dros dro gael eu gwneud.

(8)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol—

(a)yn gwneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a chorff iechyd ynghylch p’un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster ai peidio o dan ddeddfiad iechyd;

(b)yn cymryd rhan yn y modd a bennir mewn prosesau ar gyfer asesu anghenion person am ofal iechyd a phenderfynu sut y dylid diwallu’r anghenion hynny.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar yr hyn y caiff awdurdod lleol ei wneud o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan gynnwys ymrwymo i drefniadau o dan reoliadau a wneir o dan adran 33 o’r Ddeddf honno (trefniadau â chyrff GIG).

(10)Yn yr adran hon—

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 47 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

48Eithriad ar gyfer darparu tai etcLL+C

Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 na chyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15 drwy wneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol hwnnw neu awdurdod lleol arall ei wneud o dan—

(a)[F6Deddf Tai (Cymru) 2014], neu

(b)unrhyw ddeddfiad arall a bennir mewn rheoliadau.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 48 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

49Cyfyngiadau ar ddarparu taliadauLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth o dan adrannau 35 i 45 oni bai—

(a)bod y taliadau’n rhai uniongyrchol (gweler adrannau 50 i 53),

(b)bod yr awdurdod o’r farn—

(i)bod anghenion y person yn rhai brys, a

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol i ddiwallu’r anghenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,

(c)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu

(d)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15(1) oni bai—

(a)bod yr awdurdod o’r farn—

(i)y byddai’r taliadau’n sicrhau un neu fwy o’r dibenion a grybwyllwyd yn adran 15(2), a

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol sicrhau’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,

(b)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract, neu yn rhinwedd contract, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar gyfer ardal yr awdurdod, neu

(c)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 49 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)