Search Legislation

Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

9.   Ar ôl adran 85 mewnosoder—

Cymwysterau proffesiynol – ymgeiswyr gwladwriaeth benodedig

85B.(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ymgeisydd gwladwriaeth benodedig yn cyflwyno cais ar gyfer cofrestru.

(2) Yn ddarostyngedig i adran 85C, rhaid i’r cofrestrydd gydnabod cymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd os yw wedi ei fodloni bod y cymwysterau proffesiynol hynny’n gymaradwy â’r rhai sy’n ofynnol i ymarfer yng Nghymru waith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.

Ymgeiswyr gwladwriaeth benodedig: gwrthod cydnabod cymwysterau proffesiynol

85C.(1) Ni chaiff y cofrestrydd wrthod cydnabod cymwysterau proffesiynol ymgeisydd gwladwriaeth benodedig ond os bodlonir un neu ragor o Amodau 1, 2, 3 neu 4.

(2) Mae Amod 1 wedi ei fodloni—

(a)pan fo gwahaniaeth sylweddol rhwng y safon hyfedredd y darperir tystiolaeth ohoni gan gymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd a’r safon hyfedredd y mae’n angenrheidiol i berson ei chyflawni i gael ei dderbyn i’r rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(b)pan fo’r ymgeisydd yn methu prawf gallu, neu’n gwrthod ei sefyll, neu’n methu â chwblhau cyfnod ymaddasu a osodwyd yn unol ag adran 85D.

(3) Mae Amod 2 wedi ei fodloni—

(a)pan fo gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi yn cynnwys un neu ragor o weithgareddau proffesiynol sy’n cwmpasu materion sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gwmpesir gan gymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd, a

(b)pan fo’r ymgeisydd yn methu prawf gallu, neu’n gwrthod ei sefyll, neu’n methu â chwblhau cyfnod ymaddasu a osodwyd yn unol ag adran 85D.

(4) Mae Amod 3 wedi ei fodloni pan fyddai ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd sefyll prawf gallu neu gwblhau cyfnod ymaddasu yn unol ag adran 85D yn gyfystyr â’i gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd gaffael y cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol er mwyn ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cynnwys yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.

(5) Mae Amod 4 wedi ei fodloni pan na fo’r ymgeisydd yn gallu bodloni unrhyw un neu ragor o’r gofynion cofrestru eraill mewn perthynas â’r rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.

Ymgeiswyr gwladwriaeth benodedig: profion gallu a chyfnodau ymaddasu

85D.(1) Caiff y cofrestrydd ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gwladwriaeth benodedig sefyll prawf gallu, wedi ei safoni neu fel arall, neu gwblhau cyfnod ymaddasu—

(a)pan fo gwahaniaeth sylweddol rhwng cymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd a’r wybodaeth hanfodol neu’r sgiliau hanfodol sy’n ofynnol er mwyn ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi, neu

(b)pan fo gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi yn cynnwys un neu ragor o weithgareddau proffesiynol sy’n cwmpasu materion sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gwmpesir gan gymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd.

(2) Rhaid i’r cofrestrydd ystyried a yw unrhyw ofyniad i sefyll prawf gallu neu i gwblhau cyfnod ymaddasu yn gymesur â’r gwahaniaeth y ceisir ei ddatrys.

(3) Os yw’r ymgeisydd yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r cofrestrydd, i’r graddau y bo’n bosibl, ddarparu ei resymau yn ysgrifenedig dros ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd sefyll prawf gallu neu i gwblhau cyfnod ymaddasu.

(4) Pan fo’r cofrestrydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd ymgymryd â phrawf gallu, rhaid i’r cofrestrydd sicrhau bod profion o’r fath yn cael eu hamserlennu ag amlder rhesymol ac o leiaf unwaith y flwyddyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources