NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”). Mae Gorchymyn 2011 yn pennu gweithgareddau morol trwyddedadwy nad yw trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”) yn ofynnol mewn cysylltiad â hwy, pa un ai yn ddarostyngedig i amodau neu fel arall.

Mae’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ardal, ac unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy yr ymgymerir ag ef yn yr ardal honno, yr awdurdod trwyddedu priodol ar ei chyfer neu ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf 2009 yw Gweinidogion Cymru.

Mae Rhan 1 yn cynnwys y darpariaethau rhagarweiniol.

Mae Rhan 2 yn diwygio esemptiadau presennol rhag y gofyniad i ddal trwydded forol fel y’u nodir yng Ngorchymyn 2011 drwy ychwanegu neu ddiwygio esemptiadau ac amodau sy’n ymwneud â’r esemptiadau hynny.

Mae Rhan 3 yn cyflwyno esemptiadau newydd rhag y gofyniad i ddal trwydded forol. Mae’r rhain yn ymwneud â mân weithiau rheolaidd i gynnal a chadw pontydd, strwythurau cantilifrog, glanfeydd a phierau presennol (erthygl 35), symud llongau wedi eu gadael neu longau adfeiliedig (erthygl 36), arddangosfeydd tân gwyllt (erthygl 37), samplau i’w profi neu eu dadansoddi (erthygl 38), deifwyr yn symud sbwriel môr (erthygl 39), dyddodiadau neu weithgaredd symud damweiniol (erthygl 40), gwaith treillio cynnal a chadw mordwyaeth (erthygl 41), arwyddion dros dro (erthygl 42), sefydlu neu adfer gwely morwellt (erthygl 43), uwchraddio strwythurau arfordirol, strwythurau draenio a strwythurau amddiffyn rhag llifogydd (erthygl 44), cyfleusterau doc sych (erthygl 45), gollwng cemegion ac olew alltraeth (erthygl 46), symud tywod a chwythwyd gan y gwynt a dyddodiad dilynol (erthygl 47), pontynau (erthygl 48), tyllau prawf (erthygl 49), tyllau turio (erthygl 50), samplu fibrograidd (erthygl 51) a glanhau corff llong yn y dŵr (erthygl 52).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.