8. Yn lle erthygl 16 (offer gwyddonol etc) rhodder—
16.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—
(a)dyddodi unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig mewn cysylltiad ag unrhyw arbrawf neu arolwg gwyddonol;
(b)gweithgaredd symud a ymgymerir at y diben o symud unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (a);
(c)dyddodi unrhyw adweithredydd;
(ch)dyddodi unrhyw ddeunydd olrhain.
(2) Mae is-baragraff (a) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amod 1.
(3) Mae is-baragraff (b) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amod 2.
(4) Mae is-baragraffau (c) ac (ch) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 3 a 4.
(5) Amod 1 yw bod rhaid hysbysu Swyddfa Hydrograffig y DU am fanylion unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig sydd i’w ddyddodi o leiaf 5 niwrnod cyn y diwrnod y gwneir unrhyw ddyddodiad.
(6) Amod 2 yw bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o unrhyw symudiad o unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig o fewn 5 niwrnod i’r symudiad.
(7) Amod 3 yw bod rhaid i’r adweithredydd neu’r deunydd olrhain fod yn adweithredydd neu’n ddeunydd olrhain y mae’r defnydd ohono wedi ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod trwyddedu.
(8) Amod 4 yw bod rhaid defnyddio’r adweithredydd neu’r deunydd olrhain yn unol ag unrhyw amodau y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(9) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i—
(a)unrhyw ddyddodiad o’r fath a wneir at y diben o waredu;
(b)unrhyw ddyddodiad o’r fath sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth, yn benodol pan fo dyddodiad o’r fath wedi ei glymu ar dennyn i wely’r môr neu’n lleihau cliriad mordwyol mwy na 5% o gyfeirio at Seilnod Siart(1);
(c)unrhyw ddyddodiad na gweithgaredd symud o’r fath sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.”
Seilnod Siart yw’r plân y cyhoeddir pob dyfnder oddi tano ar siart fordwyo. Dyma’r plân y cyfeirir pob uchder llanw iddo hefyd, felly drwy adio uchder y llanw a’r dyfnder a siartiwyd, canfyddir gwir ddyfnder y dŵr. Drwy gytundeb rhyngwladol, mae Seilnod Siart wedi ei ddiffinio’n lefel mor isel fel na fydd y llanw yn disgyn islaw iddo yn aml. Yn y Deyrnas Unedig, mae’r lefel hon fel arfer oddeutu lefel y Distyll Astronomaidd.