Rhan 2Diwygio erthyglau presennol
Amnewid erthygl 168.
“Offer gwyddonol etc16.
(1)
Mae erthygl 4 yn gymwys i—
(a)
dyddodi unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig mewn cysylltiad ag unrhyw arbrawf neu arolwg gwyddonol;
(b)
gweithgaredd symud a ymgymerir at y diben o symud unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (a);
(c)
dyddodi unrhyw adweithredydd;
(ch)
dyddodi unrhyw ddeunydd olrhain.
(2)
Mae is-baragraff (a) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amod 1.
(3)
Mae is-baragraff (b) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amod 2.
(4)
Mae is-baragraffau (c) ac (ch) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 3 a 4.
(5)
Amod 1 yw bod rhaid hysbysu Swyddfa Hydrograffig y DU am fanylion unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig sydd i’w ddyddodi o leiaf 5 niwrnod cyn y diwrnod y gwneir unrhyw ddyddodiad.
(6)
Amod 2 yw bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o unrhyw symudiad o unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig o fewn 5 niwrnod i’r symudiad.
(7)
Amod 3 yw bod rhaid i’r adweithredydd neu’r deunydd olrhain fod yn adweithredydd neu’n ddeunydd olrhain y mae’r defnydd ohono wedi ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod trwyddedu.
(8)
Amod 4 yw bod rhaid defnyddio’r adweithredydd neu’r deunydd olrhain yn unol ag unrhyw amodau y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(9)
Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i—
(a)
unrhyw ddyddodiad o’r fath a wneir at y diben o waredu;
(b)
unrhyw ddyddodiad o’r fath sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth, yn benodol pan fo dyddodiad o’r fath wedi ei glymu ar dennyn i wely’r môr neu’n lleihau cliriad mordwyol mwy na 5% o gyfeirio at Seilnod Siart12;(c)
unrhyw ddyddodiad na gweithgaredd symud o’r fath sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.”