6. Yn erthygl 13 (lledaenu a magu pysgod cregyn)—
(a)ym mharagraff (2)—
(i)ar ôl “ddyddodiad” rhodder “, gweithgaredd symud na gweithgaredd treillio”;
(ii)hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (b);
(b)ar ôl paragraff (2)(c) mewnosoder—
“(ch)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig;
(d)a wneir at y diben o ehangu lledaenu neu fagu pysgod cregyn y tu hwnt i ffiniau gweithgareddau presennol.
(3) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o leiaf 5 niwrnod cyn y diwrnod y mae unrhyw ddyddodiad yn dechrau, gan gynnwys manylion unrhyw strwythurau neu arwyddion a’u cyfesurynnau lledred a hydred yn unol â System Geodetig y Byd 1984(1)”
Mae System Geodetig y Byd 1984 yn diffinio ffrâm gyfeirio ar gyfer y Ddaear, i’w defnyddio ar gyfer geodeseg a llywio. Fe’i datblygwyd gan National Geospacial-Intelligence Agency (“NGA”) yr Unol Daleithiau, sy’n gyfrifol am ei chynnal a’i chadw. Mae System Geodetig y Byd 1984 wedi ei diffinio ym mharagraff 2.1 o NGA Standardization Document, Department of Defense, System Geodetig y Byd 1984 (diweddarwyd 8 Gorffennaf 2014) (https://earth-info.nga.mil/index.php?dir=wgs84&action=wgs84#tab_wgs84-res). Mae copïau caled ar gael ar gais o swyddfeydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Parc Busnes Rhyngwladol Aberdeen, Adeilad 2, Lefel 1, Dyce Drive, Dyce, Aberdeen AB21 0BR.