Rhan 2Diwygio erthyglau presennol

Diwygio erthygl 136.

Yn erthygl 13 (lledaenu a magu pysgod cregyn)—

(a)

ym mharagraff (2)—

(i)

ar ôl “ddyddodiad” rhodder “, gweithgaredd symud na gweithgaredd treillio”;

(ii)

hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (b);

(b)

ar ôl paragraff (2)(c) mewnosoder—

“(ch)

sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig;

(d)

a wneir at y diben o ehangu lledaenu neu fagu pysgod cregyn y tu hwnt i ffiniau gweithgareddau presennol.

(3)

Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o leiaf 5 niwrnod cyn y diwrnod y mae unrhyw ddyddodiad yn dechrau, gan gynnwys manylion unrhyw strwythurau neu arwyddion a’u cyfesurynnau lledred a hydred yn unol â System Geodetig y Byd 198411