Rhan 2Diwygio erthyglau presennol

Diwygio erthygl 3

3.  Yn erthygl 3 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “safle Ewropeaidd”;

(b)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “ardal forol warchodedig” (“marine protected area”) yw safle—

(i)

sydd wedi ei ddynodi’n ardal cadwraeth arbennig yn unol â rheoliad 12(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(1) neu reoliad 7(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017(2);

(ii)

sydd wedi ei ddosbarthu’n ardal gwarchodaeth arbennig yn unol â rheoliad 15(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 neu reoliad 12(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017;

(iii)

sydd wedi ei ddynodi’n barth cadwraeth morol yn unol ag adran 116(1) o Ddeddf 2009;

(iv)

yr hysbyswyd ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn unol ag adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3);

mae i “awdurdod diogelu’r arfordir” yr un ystyr ag a roddir i “coast protection authority” yn Neddf Diogelu’r Arfordir 1949(4);

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

mae i “awdurdod rheoli risg i Gymru” yr ystyr a roddir i “Welsh risk management authority” yn adran 6 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(5);

mae “buddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn” (“MoD strategic interest”) yn cynnwys unrhyw hyfforddiant, prawf, gwerthusiad neu weithrediad a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn neu gyda chaniatâd y Weinyddiaeth Amddiffyn;

mae i “rhywogaeth estron oresgynnol” yr un ystyr ag a roddir i “invasive non-native species” yn Atodlen 9A i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (gweler paragraff 2(1) i (3))(6);

ystyr “sbwriel môr” (“marine litter”) yw unrhyw ddeunydd solet parhaus, a weithgynhyrchwyd neu a broseswyd sydd wedi ei daflu, ei waredu neu ei adael sy’n digwydd yn yr amgylchedd morol ac arfordirol;

ystyr “Swyddfa Hydrograffig y DU” (“the UK Hydrographic Office”) yw Swyddfa Hydrograffig y Weinyddiaeth Amddiffyn;

mae i “Trinity House” yr ystyr a roddir i “the Trinity House” yn adran 223(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(7).

(1)

O.S. 2017/1012. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2019/579.

(2)

O.S. 2017/1013. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2019/579.

(3)

1981 p. 69. Yn unol ag adran 27AA mewn perthynas â thir yng Nghymru, mae cyfeiriadau at Natural England i’w darllen fel cyfeiriadau at Corff Adnoddau Naturiol Cymru. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2006/2541 ac O.S. 2014/3088 (Cy. 309).

(4)

1949 p. 74. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1972/70.