Rhan 2Diwygio erthyglau presennol
Diwygio erthygl 33.
Yn erthygl 3 (dehongli)—
(a)
hepgorer y diffiniad o “safle Ewropeaidd”
;
(b)
“ystyr “ardal forol warchodedig” (“marine protected area”) yw safle—
- (i)
- (ii)
sydd wedi ei ddosbarthu’n ardal gwarchodaeth arbennig yn unol â rheoliad 15(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 neu reoliad 12(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017;
- (iii)
sydd wedi ei ddynodi’n barth cadwraeth morol yn unol ag adran 116(1) o Ddeddf 2009;
- (iv)
yr hysbyswyd ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn unol ag adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19816;mae i “awdurdod diogelu’r arfordir” yr un ystyr ag a roddir i “coast protection authority” yn Neddf Diogelu’r Arfordir 19497;ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
mae i “awdurdod rheoli risg i Gymru” yr ystyr a roddir i “Welsh risk management authority” yn adran 6 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20108;mae “buddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn” (“MoD strategic interest”) yn cynnwys unrhyw hyfforddiant, prawf, gwerthusiad neu weithrediad a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn neu gyda chaniatâd y Weinyddiaeth Amddiffyn;
mae i “rhywogaeth estron oresgynnol” yr un ystyr ag a roddir i “invasive non-native species” yn Atodlen 9A i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (gweler paragraff 2(1) i (3))9;ystyr “sbwriel môr” (“marine litter”) yw unrhyw ddeunydd solet parhaus, a weithgynhyrchwyd neu a broseswyd sydd wedi ei daflu, ei waredu neu ei adael sy’n digwydd yn yr amgylchedd morol ac arfordirol;
ystyr “Swyddfa Hydrograffig y DU” (“the UK Hydrographic Office”) yw Swyddfa Hydrograffig y Weinyddiaeth Amddiffyn;
mae i “Trinity House” yr ystyr a roddir i “the Trinity House” yn adran 223(1) o Ddeddf Llongau Masnach 199510.”