Rhan 2Diwygio erthyglau presennol

Amnewid erthygl 3220.

 Yn lle erthygl 32 (twnelau turiedig) rhodder—

“Twnelau turiedig32.

(1)

Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir yn gyfan gwbl o dan wely’r môr mewn cysylltiad ag adeiladu neu weithredu twnnel turiedig.

(2)

Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 i 3.

(3)

Amod 1 yw na chaiff y gweithgaredd effeithio’n andwyol ar amgylchedd Cymru, rhanbarth glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru na’r adnoddau byw y mae’r amgylchedd hwnnw yn eu cynnal.

(4)

Amod 2 yw nad yw’r dyddodiad na’r gweithgaredd gweithiau yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth.

(5)

Amod 3 yw nad yw’r dyddodiad na’r gweithgaredd gweithiau yn achosi neu’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(6)

Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o’r fath a ymgymerir at y diben o waredu.”