19. Yn erthygl 31 (ceblau a phiblinellau – archwilio ac atgyweirio awdurdodedig mewn argyfwng)—
(a)ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau “na cheir” hyd at y diwedd rhodder “bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o unrhyw ddiwygiadau a wneir i safleoedd ceblau a phiblinellau a siartiwyd o fewn 5 niwrnod ar ôl cwblhau unrhyw waith atgyweirio mewn argyfwng”;
(b)ym mharagraff (3), ar ôl “eitem 10” mewnosoder “nac i unrhyw ddyddodiad o’r fath at y ddiben o ddarparu diogelwch tymor hir i geblau neu biblinellau.”