Rhan 2Diwygio erthyglau presennol

Amnewid erthygl 2817.

Yn lle erthygl 28 (llwybrau deifwyr mewn ardaloedd dan gyfyngiadau) rhodder—

“Llwybrau deifwyr mewn ardaloedd o dan gyfyngiadau ac mewn perthynas â henebion cofrestredig28.

(1)

Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o osod, clymu’n sownd neu symud arwyddion neu ddynodyddion eraill sy’n ymwneud ag—

(a)

llongddrylliad mewn ardal a ddynodwyd yn ardal o dan gyfyngiadau yn yr ystyr a roddir i “restricted area” yn adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 197314,

(b)

heneb gofrestredig o fewn ystyr adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 202315, neu

(c)

ardal a ddynodwyd yn safle a reolir o dan adran 1(2)(b) o Ddeddf Gwarchod Olion Milwrol 198616.”