Rhan 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2026.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy yr awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4) a (5) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1) yw Gweinidogion Cymru.

(1)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol o ran ymgymryd â gweithgareddau penodol yn rhanbarth glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru (gweler adran 322(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniadau o “Welsh inshore region” a Welsh offshore region”), ac eithrio mewn perthynas â gweithgareddau sy’n dod o dan adran 113(5) pan mai’r Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod trwyddedu priodol.