Rhan 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, dod i rym a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.

(2)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2026.

(3)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy yr awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4) a (5) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20092 yw Gweinidogion Cymru.