2026 Rhif 13
Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol â gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd a gymhwysir gan adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn statudol Cymreig hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.

Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Ionawr 2026.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2026 neu ar ôl hynny.

(4)

Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);

ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 20133, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 20132.

Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.

3.

Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)

ar ôl y diffiniad o “cerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd” mewnosoder—

“ystyr “taliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT” (“LGBT Financial Recognition Scheme payment”) yw taliad o dan Gynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol a weinyddir o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn;”;

(b)

ar ôl y diffiniad o “MFET Limited” mewnosoder—

“ystyr “taliad digollediad camweinyddu cyfiawnder” (“miscarriage of justice compensation payment”) yw—

(a)

taliad a wneir o dan adran 133(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 19884, neu

(b)

unrhyw daliad arall a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Gyfiawnder, at ddiben digolledu person—

  1. (i)

    am gamweinyddu cyfiawnder mewn achos troseddol, neu

  2. (ii)

    am gael ei gyhuddo ar gam o drosedd;”;

(c)

ar ôl y diffiniad o “symudwr” mewnosoder—
“ystyr “absenoldeb gofal newydd-anedig” (“neonatal care leave”) yw absenoldeb o dan adran 80EF o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19965;”;

(d)

yn y diffiniad o “person cymwys” yn lle “neu daliad niwed drwy frechiad” rhodder “, taliad niwed drwy frechiad, taliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder,”;

(e)

ar ôl y diffiniad o “credyd pensiwn y wladwriaeth” mewnosoder—
“ystyr “tâl gofal newydd-anedig statudol” (“statutory neonatal care pay”) yw tâl gofal newydd-anedig statudol o dan adran 171ZZ16 o DCBNC6;”.

4.

Yn rheoliad 3 (ystyr “pensiynwr” a “person nad yw’n bensiynwr”)—

(a)

daw’r testun presennol yn baragraff (1);

(b)

ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

“(2)

At ddibenion is-baragraffau (a)(ii)(bb) a (b)(ii)(bb) o baragraff (1) mae dyfarniad o gredyd cynhwysol i’w ddiystyru—

(a)

yn ystod y cyfnod perthnasol, neu

(b)

pan fo rheoliad 60A o Reoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Trosiannol) 20147 yn gymwys mewn cysylltiad â’r dyfarniad.

(3)

Yn y rheoliad hwn—

mae i “cyfnod asesu” yr un ystyr ag a roddir i “assessment period” yn Rheoliadau Credyd Cynhwysol 20138;

ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae person (“P”) a phob partner i P wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae’r cyfnod asesu olaf ar gyfer credyd cynhwysol yn dod i ben.”

5.

Yn rheoliad 10(7) (gwaith am dâl) ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”.

6.

(1)

Yn rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—

(a)

yn lle is-baragraff (j) rhodder—

“(j)

yn cael cymhorthdal incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm neu gredyd cynhwysol;”;

(b)

ar ôl is-baragraff (p) hepgorer “neu”;

(c)

ar ôl is-baragraff (q) mewnosoder—

“(r)

yn berson—

(i)

a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar 23 Mehefin 2025 neu cyn hynny,

(ii)

a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025,

(iii)

a gyrhaeddodd Brydain Fawr ar 23 Rhagfyr 2025 neu cyn hynny, a

(iv)

sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn—

(aa)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 19719 neu’r tu allan i’r rheolau hynny,

(bb)

sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr adran 210 o’r Ddeddf honno, neu

(cc)

yn unol ag adran 3ZA11 o’r Ddeddf honno, nad oes angen caniatâd arno i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig nac i aros ynddi;

(s)

yn berson (ond gweler paragraff (5A))—

(i)

a oedd yn preswylio mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Brydain Fawr yn union cyn i Lywodraeth ei Fawrhydi—

(aa)

darparu gwybodaeth gyhoeddus i gynghori gwladolion Prydeinig i adael y wlad neu’r diriogaeth honno, neu

(bb)

trefnu ymgiliad gwladolion Prydeinig o’r wlad neu’r diriogaeth honno,

(ii)

sydd wedi gadael y wlad neu’r diriogaeth honno ac sy’n bresennol ym Mhrydain Fawr, a

(iii)

sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn—

(aa)

sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o Ddeddf Mewnfudo 1971,

(bb)

nad yw’n ofynnol iddo gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol ag adran 3ZA o’r Ddeddf honno,

(cc)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno, neu

(dd)

sydd â chaniatâd ar sail disgresiwn y tu allan i reolau a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno;

(t)

yn berson sydd, fel rhan o lwybr mewnfudo dyngarol diogel a chyfreithlon, â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn unol â rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 neu sydd â chaniatâd ar sail disgresiwn y tu allan i’r rheolau hynny.”

(2)

Ar ôl rheoliad 28(5) mewnosoder—

“(5A)

Nid yw is-baragraff (s) o baragraff (5) yn gymwys ar ôl diwedd 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr wybodaeth gyhoeddus, neu y dechreuir yr ymgiliad.”

7.

Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—

(a)

ym mharagraff 3(1)—

(i)

ym mharagraff (a), yn lle “£18.70” rhodder “£20.05”;

(ii)

ym mharagraff (b), yn lle “£6.25” rhodder “£6.70”;

(b)

ym mharagraff 3(2)—

(i)

ym mharagraff (a), yn lle “£266.00” rhodder “£279.00”;

(ii)

ym mharagraff (b), yn lle “£266.00”, “£463.00” a “£12.45” rhodder “£279.00”, “£485.00” a “£13.35” yn y drefn honno;

(iii)

ym mharagraff (c), yn lle “£463.00”, “£577.00” a “£15.65” rhodder “£485.00”, “£605.00” ac “£16.80” yn y drefn honno;

(c)

ym mharagraff 3(9)(c), ar ôl “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;

(d)

ym mharagraff 3(9)(d), ar ôl “daliad digollediad Swyddfa’r Post” mewnosoder “, unrhyw daliad niwed drwy frechiad, unrhyw daliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu unrhyw daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder;”;

(e)

ar ôl paragraff 3(9)(d) mewnosoder—

“(e)

unrhyw daliad allan o ystad person i fab, merch, llysfab neu lysferch y person hwnnw sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy;

(f)

unrhyw daliad allan o ystad person sy’n deillio o daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person am fod y person hwnnw wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig.”;

(f)

ym mharagraff 10(1)(j) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff (xvib), mewnosoder—

“(xvic)

tâl gofal newydd-anedig statudol;”;

(g)

ym mharagraff 12(1) (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl paragraff (jb) mewnosoder—

“(jc)

tâl gofal newydd-anedig statudol;”;

(h)

ym mharagraff 13(2)(d) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(i)

ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—

(i)

yn is-baragraff (15), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(ii)

yn is-baragraff (15)(a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(iii)

yn is-baragraff (15)(c), o flaen “neu gymhorthdal cymwys” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(iv)

yn is-baragraff (16), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(v)

yn is-baragraff (16)(b), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(vi)

yn is-baragraff (16)(c), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”.

8.

Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)

yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—

(i)

yn is-baragraff (1), yn lle “£244.40” rhodder “£256.00”;

(ii)

yn is-baragraff (2), yn lle “£366.00” rhodder “£383.35”;

(iii)

yn is-baragraff (3), yn lle “£366.00” a “£121.60” rhodder “£383.35” a “£127.35” yn y drefn honno;

(b)

yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£84.66”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£87.88”;

(c)

ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£19.48” rhodder “£20.22”;

(d)

yn yr ail golofn (swm) yn y Tabl ym mharagraff 12 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)

yn is-baragraff (1), yn lle “£82.90”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£86.05” ac yn lle “£165.80” rhodder “£172.10”;

(ii)

yn is-baragraff (2), yn lle “£32.75” rhodder “£33.99”;

(iii)

yn is-baragraff (3), yn lle “£81.37” rhodder “£84.46”;

(iv)

yn is-baragraff (4), yn lle “£46.40” rhodder “£48.15”.

9.

Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ym mharagraff 16—

(a)

yn lle is-baragraff (1A) rhodder—

“(1A)

Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post, unrhyw daliad niwed drwy frechiad, unrhyw daliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu unrhyw daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder.”;

(b)

ym mhob un o is-baragraffau (2) i (3), (5) i (6) a (7) yn lle “neu daliad niwed drwy frechiad” rhodder “, taliad niwed drwy frechiad, taliad Cynllun Digolledu Windrush, taliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder”;

(c)

ar ôl is-baragraff (6A) mewnosoder—

“(6B)

Unrhyw daliad allan o ystad person sy’n deillio o daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person am fod y person hwnnw wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig.”

10.

Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)

ym mharagraff 5(1)—

(i)

ym mharagraff (a), yn lle “£18.70” rhodder “£20.05”;

(ii)

ym mharagraff (b), yn lle “£6.25” rhodder “£6.70”;

(b)

ym mharagraff 5(2)—

(i)

ym mharagraff (a), yn lle “£266.00” rhodder “£279.00”;

(ii)

ym mharagraff (b), yn lle “£266.00”, “£463.00” a “£12.45” rhodder “£279.00”, “£485.00” a “£13.35” yn y drefn honno;

(iii)

ym mharagraff (c), yn lle “£463.00”, “£577.00” a “£15.65” rhodder “£485.00”, “£605.00” ac “£16.80” yn y drefn honno;

(c)

ym mharagraff 5(9)(b), ar ôl “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;

(d)

ym mharagraff 5(9)(ba), ar ôl “daliad digollediad Swyddfa’r Post” mewnosoder “, unrhyw daliad niwed drwy frechiad, unrhyw daliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu unrhyw daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder”;

(e)

ar ôl paragraff 5(9)(d) mewnosoder—

“(e)

unrhyw daliad allan o ystad person i fab, merch, llysfab neu lysferch y person hwnnw sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy;

(f)

unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person am fod y person hwnnw wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig.”;

(f)

ym mharagraff 14(1)—

(i)

ym mharagraff (j), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(ii)

ym mharagraff (k), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(g)

ym mharagraff 15(3)(d), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(h)

ym mharagraff 21—

(i)

yn is-baragraff (15), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(ii)

yn is-baragraff (15)(a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(iii)

yn is-baragraff 15(c), o flaen “neu gymhorthdal cymwys” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(iv)

yn is-baragraff (16), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(v)

yn is-baragraff (16)(b), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(vi)

yn is-baragraff (16)(c), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”.

11.

Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)

yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)

yn is-baragraff (1), yn lle “£98.10”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£101.85” ac yn lle “£77.65” rhodder “£80.60”;

(ii)

yn is-baragraff (2), yn lle “£98.10” rhodder “£101.85”;

(iii)

yn is-baragraff (3), yn lle “£154.00” rhodder “£159.85”;

(b)

yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£84.66”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£87.88”;

(c)

ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£19.48” rhodder “£20.22”;

(d)

yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)

yn is-baragraff (1), yn lle “£43.20” a “£61.65” rhodder “£44.85” a “£64.00” yn y drefn honno;

(ii)

yn is-baragraff (2), yn lle “£82.90”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£86.05” ac yn lle “£165.80” rhodder “£172.10”;

(iii)

yn is-baragraff (3), yn lle “£81.37” rhodder “£84.46”;

(iv)

yn is-baragraff (4), yn lle “£46.40” rhodder “£48.15”;

(v)

yn is-baragraff (5), yn lle “£32.75”, “£21.20” a “£30.25” rhodder “£33.99”, “£22.00” a “£31.40” yn y drefn honno;

(e)

ym mharagraff 23, yn lle “£36.55” rhodder “£37.95”;

(f)

ym mharagraff 24, yn lle “£48.50” rhodder “£50.35”.

12.

Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 29—

(a)

yn lle is-baragraff (1A) rhodder—

“(1A)

Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post, unrhyw daliad niwed drwy frechiad, unrhyw daliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu unrhyw daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder.”;

(b)

ym mhob un o is-baragraffau (2) i (5) a (6) yn lle “neu daliad niwed drwy frechiad” rhodder “, taliad niwed drwy frechiad, taliad Cynllun Digolledu Windrush, taliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder”;

(c)

ar ôl is-baragraff (5A) mewnosoder—

“(5B)

Unrhyw daliad allan o ystad person sy’n deillio o daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person am fod y person hwnnw wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig.”

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 201313.

Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 201312 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 14 i 28.

14.

Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—

(a)

ar ôl y diffiniad o “cerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd” mewnosoder—

“ystyr “taliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT” (“LGBT Financial Recognition Scheme payment”) yw taliad o dan Gynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a weinyddir o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn;”;

(b)

ar ôl y diffiniad o “MFET Limited” mewnosoder—

“ystyr “taliad digollediad camweinyddu cyfiawnder” (“miscarriage of justice compensation payment”) yw—

(a)

taliad a wneir o dan adran 133(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, neu

(b)

unrhyw daliad arall a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Gyfiawnder, at ddibenion digolledu person—

  1. (i)

    am gamweinyddu cyfiawnder mewn achos troseddol, neu

  2. (ii)

    am gael ei gyhuddo ar gam o drosedd;”;

(c)

ar ôl y diffiniad o “symudwr” mewnosoder—

“ystyr “absenoldeb gofal newydd-anedig” (“neonatal care leave”) yw absenoldeb o dan adran 80EF o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;”;

(d)

yn y diffiniad o “person cymwys” yn lle “neu daliad niwed drwy frechiad” rhodder “, taliad niwed drwy frechiad, taliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder,”;

(e)

ar ôl y diffiniad o “credyd pensiwn y wladwriaeth” mewnosoder—

“ystyr “tâl gofal newydd-anedig statudol” (“statutory neonatal care pay”) yw tâl gofal newydd-anedig statudol o dan adran 171ZZ16 o DCBNC;”.

15.

Ym mharagraff 3 (cymhwyso’r cynllun: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

“(3)

At ddibenion paragraffau (a)(ii)(bb) a (b)(ii)(bb) yn is-baragraff (2) mae dyfarniad o gredyd cynhwysol i’w ddiystyru—

(a)

yn ystod y cyfnod perthnasol, neu

(b)

pan fo rheoliad 60A o Reoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Trosiannol) 2014 yn gymwys mewn cysylltiad â’r dyfarniad.

(4)

Yn y paragraff hwn—

mae i “cyfnod asesu” yr un ystyr ag a roddir i “assessment period” yn Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013;

ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae person (“P”) a phob partner i P wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae’r cyfnod asesu olaf ar gyfer credyd cynhwysol yn dod i ben.”

16.

Ym mharagraff 10(7) (gwaith am dâl) ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”.

17.

(1)

Ym mharagraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—

(a)

yn lle paragraff (j) rhodder—

“(j)

yn cael cymhorthdal incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm neu gredyd cynhwysol;”;

(b)

ar ôl paragraff (p) hepgorer “neu”;

(c)

ar ôl paragraff (q) mewnosoder—

“(r)

yn berson—

(i)

a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar 23 Mehefin 2025 neu cyn hynny,

(ii)

a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025,

(iii)

a gyrhaeddodd Brydain Fawr ar 23 Rhagfyr 2025 neu cyn hynny, a

(iv)

sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn—

(aa)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 neu’r tu allan i’r rheolau hynny,

(bb)

sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno, neu

(cc)

yn unol ag adran 3ZA o’r Ddeddf honno, nad oes angen caniatâd arno i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig nac i aros ynddi;

(s)

yn berson (ond gweler is-baragraff (5A))—

(i)

a oedd yn preswylio mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Brydain Fawr yn union cyn i Lywodraeth ei Mawrhydi—

(aa)

darparu gwybodaeth gyhoeddus i gynghori gwladolion Prydeinig i adael y wlad neu’r diriogaeth honno, neu

(bb)

trefnu ymgiliad gwladolion Prydeinig o’r wlad neu’r diriogaeth honno,

(ii)

sydd wedi gadael y wlad neu’r diriogaeth honno ac yn bresennol ym Mhrydain Fawr, a

(iii)

sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn—

(aa)

sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o Ddeddf Mewnfudo 1971,

(bb)

nad yw’n ofynnol iddo gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol ag adran 3ZA o’r Ddeddf honno,

(cc)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno, neu

(dd)

sydd â chaniatâd ar sail ddisgresiynol y tu allan i reolau a wneir o dan adran 3(2) o’r Ddeddf honno;

(t)

yn berson sydd, fel rhan o lwybr mewnfudo dyngarol diogel a chyfreithlon, â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn unol â rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 neu sydd â chaniatâd ar sail disgresiwn y tu allan i’r rheolau hynny.”

(2)

Ar ôl paragraff 19(5) mewnosoder—

“(5A)

Nid yw paragraff (s) o is-baragraff (5) yn gymwys ar ôl diwedd 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr wybodaeth gyhoeddus, neu y dechreuir yr ymgiliad.”

18.

Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)

yn is-baragraff (1)—

(i)

ym mharagraff (a), yn lle “£18.70” rhodder “£20.05”;

(ii)

ym mharagraff (b), yn lle “£6.25” rhodder “£6.70”;

(b)

yn is-baragraff (2)—

(i)

ym mharagraff (a), yn lle “£266.00” rhodder “£279.00”;

(ii)

ym mharagraff (b), yn lle “£266.00”, “£463.00” a “£12.45” rhodder “£279.00”, “£485.00” a “£13.35” yn y drefn honno;

(iii)

ym mharagraff (c), yn lle “£463.00”, “£577.00” a “£15.65” rhodder “£485.00”, “£605.00” ac “£16.80” yn y drefn honno;

(c)

yn is-baragraff (9)(b) ar ôl “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;

(d)

yn is-baragraff (9)(ba) ar ôl “daliad digollediad Swyddfa’r Post” mewnosoder “, unrhyw daliad niwed drwy frechiad, unrhyw daliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu unrhyw daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder”;

(e)

ar ôl is-baragraff (9)(d) mewnosoder—

“(e)

unrhyw daliad allan o ystad person i fab, merch, llysfab neu lysferch y person hwnnw sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy;

(f)

unrhyw daliad allan o ystad person sy’n deillio o daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person am fod y person hwnnw wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig.”

19.

Ym mharagraff 36(1)(j) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), ar ôl is-baragraff (xvib), mewnosoder—

“(xvic)

tâl gofal newydd-anedig statudol;”.

20.

Ym mharagraff 38(1) (enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl paragraff (jb) mewnosoder—

“(jc)

tâl gofal newydd-anedig statudol;”.

21.

Ym mharagraff 39(2)(d) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”.

22.

Ym mharagraff 48(1) (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)

ym mharagraff (j), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(b)

ym mharagraff (k), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”.

23.

Ym mharagraff 49(3)(d), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”.

24.

Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—

(a)

yn is-baragraff (15), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(b)

yn is-baragraff (15)(a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(c)

yn is-baragraff (15)(c), o flaen “neu gymhorthdal cymwys” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(d)

yn is-baragraff (16), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “absenoldeb profedigaeth rhiant” mewnosoder “, absenoldeb gofal newydd-anedig”;

(e)

yn is-baragraff (16)(b), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”;

(f)

yn is-baragraff (16)(c), ar ôl “tâl profedigaeth rhiant statudol” mewnosoder “, tâl gofal newydd-anedig statudol”.

25.

Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)

yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—

(i)

yn is-baragraff (1)—

(aa)

yn y testun Saesneg, yn lle “£244.40” rhodder “£256.00”;

(bb)

yn y testun Cymraeg, yn lle “£244.00” rhodder “£256.00”;

(ii)

yn is-baragraff (2), yn lle “£366.00” rhodder “£383.35”;

(iii)

yn is-baragraff (3), yn lle “£366.00” a “£121.60” rhodder “£383.35” a “£127.35” yn y drefn honno;

(b)

yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£84.66”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£87.88”;

(c)

ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£19.48” rhodder “£20.22”;

(d)

yn yr ail golofn (swm) yn y Tabl ym mharagraff 12 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)

yn is-baragraff (1), yn lle “£82.90” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£86.05” ac yn lle “£165.80” rhodder “£172.10”;

(ii)

yn is-baragraff (2), yn lle “£32.75” rhodder “£33.99”;

(iii)

yn is-baragraff (3), yn lle “£81.37” rhodder “£84.46”;

(iv)

yn is-baragraff (4), yn lle “£46.40” rhodder “£48.15”.

26.

Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)

yng ngholofn (2) (swm) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)

yn is-baragraff (1), yn lle “£98.10”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£101.85” ac yn lle “£77.65” rhodder “£80.60”;

(ii)

yn is-baragraff (2), yn lle “£98.10” rhodder “£101.85”;

(iii)

yn is-baragraff (3), yn lle “£154.00” rhodder “£159.85”;

(b)

yng ngholofn (2) (swm) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£84.66”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£87.88”;

(c)

ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£19.48” rhodder “£20.22”;

(d)

yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)

yn is-baragraff (1), yn lle “£43.20” a “£61.65” rhodder “£44.85” a “£64.00” yn y drefn honno;

(ii)

yn is-baragraff (2), yn lle “£82.90”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£86.05” ac yn lle “£165.80” rhodder “£172.10”;

(iii)

yn is-baragraff (3), yn lle “£81.37” rhodder “£84.46”;

(iv)

yn is-baragraff (4), yn lle “£46.40” rhodder “£48.15”;

(v)

yn is-baragraff (5), yn lle “£32.75”, “£21.20” a “£30.25” rhodder “£33.99”, “£22.00” a “£31.40” yn y drefn honno;

(e)

ym mharagraff 23, yn lle “£36.55” rhodder “£37.95”;

(f)

ym mharagraff 24, yn lle “£48.50” rhodder “£50.35”.

27.

Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ym mharagraff 16—

(a)

yn lle is-baragraff (1A) rhodder—

“(1A)

Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post, unrhyw daliad niwed drwy frechiad, unrhyw daliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu unrhyw daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder.”;

(b)

ym mhob un o is-baragraffau (2) i (3), (5) i (6) a (7) yn lle “neu daliad niwed drwy frechiad” rhodder “, taliad niwed drwy frechiad, taliad Cynllun Digolledu Windrush, taliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder”;

(c)

ar ôl is-baragraff (6A) mewnosoder—

“(6B)

Unrhyw daliad allan o ystad person sy’n deillio o daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person am fod y person hwnnw wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig.”

28.

Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 29—

(a)

yn lle is-baragraff (1A) rhodder—

“(1A)

Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post, unrhyw daliad niwed drwy frechiad, unrhyw daliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu unrhyw daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder.”;

(b)

ym mhob un o is-baragraffau (2) i (3) a (5) i (6) a (7) yn lle “neu daliad niwed drwy frechiad” rhodder “, taliad niwed drwy frechiad, taliad Cynllun Digolledu Windrush, taliad Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LHDT neu daliad digollediad camweinyddu cyfiawnder”;

(c)

ar ôl is-baragraff (6A) mewnosoder—

“(6B)

Unrhyw daliad allan o ystad person sy’n deillio o daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person am fod y person hwnnw wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig.”;

(d)

yn is-baragraff (7), yn y testun Saesneg, ar y dechrau, yn lle “n” rhodder “In”.

Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cymryd effaith, mewn cysylltiad ag anheddau yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod hwnnw yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod diffiniadau newydd yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o ganlyniad i ddiwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 14 yn gwneud yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliadau 7(c) i (e), 9, 10(c) i (e), a 12 yn diwygio darpariaethau’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig ynghylch pa daliadau sydd i’w diystyru at ddibenion cyfrifo hawlogaeth i ostyngiad mewn perthynas â diystyriadau newydd a diystyriadau presennol. Mae’r diystyriadau newydd yn cwmpasu taliadau yn unol â Chynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol y Weinyddiaeth Amddiffyn a thaliadau a wneir o dan gynlluniau camweinyddu cyfiawnder sy’n cael effaith o dan adran 133 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33). Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn mae tri chynllun camweinyddu cyfiawnder o’r fath (y Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr a chynlluniau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon). Mae’r diystyriadau newydd hefyd yn cwmpasu taliadau allstatudol a wneir at ddibenion tebyg. Gwneir diwygiadau pellach i’r darpariaethau presennol i sicrhau bod ffurfiau penodol ar daliadau yn cael eu diystyru mewn perthynas â didyniadau annibynyddion a chyfalaf ceisydd at ddibenion cyfrifo hawlogaeth i ostyngiad. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 18(c) i (e), 27 ac 28(a) i (c).

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r diffiniadau yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o “pensiynwr” a “person nad yw’n bensiynwr” i ddiystyru unrhyw ddyfarniad o Gredyd Cynhwysol y mae rheoliad 60A o Reoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Trosiannol) 2014 yn gymwys iddo. Gwneir yr un diwygiad i’r Cynllun Diofyn gan reoliad 15.

Mae rheoliad 6(1)(a) yn diwygio rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i sicrhau, pan fo unigolyn eisoes yn cael credyd cynhwysol, nad oes angen ystyried pa un a yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ai peidio, wrth benderfynu a yw’n berson o dramor at ddibenion gostyngiad treth gyngor. Bydd unrhyw benderfyniad ynghylch a yw’n preswylio fel arfer (neu’n ddarostyngedig i un o’r eithriadau eraill rhag yr angen i ystyried pa un a yw’n preswylio fel arfer) eisoes wedi ei wneud pan ganiatawyd yr hawliad am gredyd cynhwysol. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 17(1(a).

Mae rheoliad 6(1)(b) ac (c) a (2) hefyd yn diwygio rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i fewnosod tri chategori newydd yn y rhestr o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai nad ydynt yn preswylio ym Mhrydain Fawr ac sydd felly i’w cynnwys mewn cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.

Mae’r categori newydd cyntaf yn darparu nad yw person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem yn union cyn 23 Mehefin 2025, ac a adawodd y lleoedd hynny o ganlyniad i’r trais a wnaeth ddwysáu rhwng Israel ac Iran a ddechreuodd ym mis Mehefin 2025, i’w drin fel pe na bai ym Mhrydain Fawr. Yr ail gategori newydd o berson esempt yw’r rhai sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3 o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p.77), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno, neu nad oes angen caniatâd arnynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig nac i aros ynddi yn unol ag adran 3ZA o’r Ddeddf honno, a phan oedd y person yn preswylio mewn gwlad neu diriogaeth pan ddarparodd Llywodraeth Ei Fawrhydi wybodaeth gyhoeddus i gynghori gwladolion Prydeinig i adael gwlad neu diriogaeth neu mae wedi trefnu ymgiliad gwladolion Prydeinig o’r wlad neu’r diriogaeth honno. Y trydydd categori newydd o berson esempt yw personau sy’n cael caniatâd o dan ddarpariaethau mewnfudo sydd wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Ei Fawrhydi fel llwybrau mewnfudo dyngarol diogel a chyfreithlon. Gwneir yr un diwygiadau i baragraff 19(5) o’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 17(1)(b) ac (c) a (2).

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 7(a) a (b), 8, 10(a) a (b) ac 11 yn uwchraddio ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo a oes gan berson hawlogaeth i ostyngiad, ac os felly, swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn gymwys i ddidyniadau annibynyddion (addasiadau a wneir i uchafswm y gostyngiad y gall person ei gael gan ystyried oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd) ac i’r swm cymwysadwy (y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef er mwyn penderfynu swm y gostyngiad, os oes un, y gall fod gan y ceisydd hawlogaeth i’w gael). Mae nifer o ffigurau eraill hefyd yn cael eu huwchraddio i adlewyrchu newidiadau i amryw hawlogaethau eraill. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 18(a) a (b), 25 a 26.

Mae rheoliadau 5, 7(f) i (i), a 10(f) i (h) yn gwneud diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o ganlyniad i Ddeddf Gofal Newydd-anedig (Absenoldeb a Thâl) 2023 (p. 20), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer hawlogaethau, absenoldeb a thâl ar gyfer cyflogeion sydd â chyfrifoldeb am blant sy’n cael gofal newydd-anedig. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 16 a 19 i 24.

Mae rheoliad 28(d) yn cywiro mân wall teipograffyddol yn y testun Saesneg o’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.