NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir gan adran 140 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac maent yn diwygio Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 (“y prif Reoliadau”).

Mae’r prif Reoliadau, sy’n gymwys yng Nghymru, yn gwahardd cyflenwi fêps untro.

Mae’r diwygiad yn gwneud newidiadau i reoliad 10 o’r prif Reoliadau, sy’n ymwneud â phwerau mynediad ac archwilio, gan gynnwys chwilio am fêps untro, a chydrannau fêps untro, a’u hatafaelu. Mae’r diwygiad yn galluogi swyddog gorfodaeth i gymryd meddiant o fêp untro (neu unrhyw gydran o fêp untro) a geir ar fangre a’i gadw neu ei chadw, at ddiben cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 12 o’r prif Reoliadau. Mae rheoliad 12 o’r prif Reoliadau yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo bod fêps untro penodol i’w trin fel gwastraff.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.