Offerynnau Statudol Cymru
2025 Rhif 708 (Cy. 121)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed
17 Mehefin 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
18 Mehefin 2025
Yn dod i rym
19 Mehefin 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 140(1)(c) a (d), a 3(c) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(1) (“Deddf 1990”).
Mae Gweinidogion Cymru—
yn ystyried ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn at ddiben atal yr eitemau a bennir ynddynt rhag achosi llygredd amgylcheddol a niwed i iechyd anifeiliaid;
wedi cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette a’r Western Mail, yn unol ag adran 140(6)(b)(2) o Ddeddf 1990, ac wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw, fel sy’n ofynnol gan adran 140(6)(c) o Ddeddf 1990.
Enwi a dod i rym
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mehefin 2025.
Diwygio Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 10(1)(j)(iv), mewnosoder—
“(v)sicrhau ei fod yn cael ei gadw neu ei bod yn cael ei chadw at ddiben cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 12”.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2025
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir gan adran 140 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac maent yn diwygio Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 (“y prif Reoliadau”).
Mae’r prif Reoliadau, sy’n gymwys yng Nghymru, yn gwahardd cyflenwi fêps untro.
Mae’r diwygiad yn gwneud newidiadau i reoliad 10 o’r prif Reoliadau, sy’n ymwneud â phwerau mynediad ac archwilio, gan gynnwys chwilio am fêps untro, a chydrannau fêps untro, a’u hatafaelu. Mae’r diwygiad yn galluogi swyddog gorfodaeth i gymryd meddiant o fêp untro (neu unrhyw gydran o fêp untro) a geir ar fangre a’i gadw neu ei chadw, at ddiben cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 12 o’r prif Reoliadau. Mae rheoliad 12 o’r prif Reoliadau yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo bod fêps untro penodol i’w trin fel gwastraff.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1990 p. 43. Diwygiwyd adran 140(3)(c) gan O.S. 1999/1108. Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn, mae swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 140 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Diwygiwyd adran 140(6)(b) gan O.S. 2012/1923.
