2025 Rhif 708 (Cy. 121)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) (Diwygio) 2025

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 140(1)(c) a (d), a 3(c) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19901 (“Deddf 1990”).

Mae Gweinidogion Cymru—

  1. (a)

    yn ystyried ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn at ddiben atal yr eitemau a bennir ynddynt rhag achosi llygredd amgylcheddol a niwed i iechyd anifeiliaid;

  2. (b)
    wedi cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette a’r Western Mail, yn unol ag adran 140(6)(b)2 o Ddeddf 1990, ac wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw, fel sy’n ofynnol gan adran 140(6)(c) o Ddeddf 1990.