Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025
Enw1.
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 15 Rhagfyr 20253.
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Rhagfyr 2025, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)
Rhannau 2 a 3,
(b)
Rhan 4 ac eithrio adran 40(2) (penodi awdurdod archwilio i archwilio cais i ddirymu neu newid gorchymyn cydsyniad seilwaith),
(c)
Rhan 5,
(d)
adrannau 63 i 89,
(e)
adran 92(1)(a) a (b) a (2),
(f)
adrannau 94 a 95,
(g)
adran 96(1) i (4) a (7),
(h)
adrannau 97 i 102, Rhan 7,
(i)
Rhan 8 ac eithrio adran 124(3)(a)(ii) (cyngor, gwybodaeth neu gymorth arall a ddarperir mewn cysylltiad â chais neu gais arfaethedig i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith),
(j)
adran 145,
(k)
Atodlen 1, ac
(l)
Atodlen 3.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 15 Rhagfyr 2025 i’r graddau a bennir4.
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Rhagfyr 2025 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a)
adran 92(3) mewn perthynas â gorchymyn a wneir yn rhinwedd adran 87(4) (cywiro gwallau mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n offeryn statudol), a
(b)
adran 96(6) ac (8) (heriau cyfreithiol) mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith.
Dygodd adran 147 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 (“y Ddeddf”) y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf honno i rym ar 4 Mehefin 2024, sef drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol—
Rhan 1,
darpariaethau Rhannau 2 i 8 sy’n—
rhoi pŵer i wneud rheoliadau, neu
gwneud darpariaeth ynglŷn â’r hyn y caniateir ei wneud (neu na chaniateir ei wneud) wrth arfer pŵer i wneud rheoliadau,
Rhan 9, ac eithrio adran 145.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym weddill darpariaethau’r Ddeddf at bob diben ar 15 Rhagfyr 2025, ac eithrio—
adran 40(2) (penodi awdurdod archwilio i archwilio cais i ddirymu neu newid gorchymyn cydsyniad seilwaith),
adran 90 (pŵer i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith),
adran 91 (y weithdrefn: newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith),
adran 92 (newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith: trefniadau ffurfiol), ac eithrio fel y darperir ar ei chyfer yn erthygl 4,
adran 93 (newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith: digolledu am newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith),
adran 96(5) (heriau cyfreithiol),
adran 96(6) ac (8) (heriau cyfreithiol), ac eithrio fel y darperir ar eu cyfer yn erthygl 4,
adran 124(3)(a)(ii) (cyngor, gwybodaeth neu gymorth arall a ddarperir mewn cysylltiad â chais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith), ac
Atodlen 2.