- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Seilwaith, Cymru
Gwnaed
16 Mehefin 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 147(2) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024(1).
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Rhagfyr 2025, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)Rhannau 2 a 3,
(b)Rhan 4 ac eithrio adran 40(2) (penodi awdurdod archwilio i archwilio cais i ddirymu neu newid gorchymyn cydsyniad seilwaith),
(c)Rhan 5,
(d)adrannau 63 i 89,
(e)adran 92(1)(a) a (b) a (2),
(f)adrannau 94 a 95,
(g)adran 96(1) i (4) a (7),
(h)adrannau 97 i 102, Rhan 7,
(i)Rhan 8 ac eithrio adran 124(3)(a)(ii) (cyngor, gwybodaeth neu gymorth arall a ddarperir mewn cysylltiad â chais neu gais arfaethedig i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith),
(j)adran 145,
(k)Atodlen 1, ac
(l)Atodlen 3.
4. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Rhagfyr 2025 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a)adran 92(3) mewn perthynas â gorchymyn a wneir yn rhinwedd adran 87(4) (cywiro gwallau mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n offeryn statudol), a
(b)adran 96(6) ac (8) (heriau cyfreithiol) mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2025
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dygodd adran 147 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 (“y Ddeddf”) y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf honno i rym ar 4 Mehefin 2024, sef drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 1,
(b)darpariaethau Rhannau 2 i 8 sy’n—
(i)rhoi pŵer i wneud rheoliadau, neu
(ii)gwneud darpariaeth ynglŷn â’r hyn y caniateir ei wneud (neu na chaniateir ei wneud) wrth arfer pŵer i wneud rheoliadau,
(c)Rhan 9, ac eithrio adran 145.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym weddill darpariaethau’r Ddeddf at bob diben ar 15 Rhagfyr 2025, ac eithrio—
(a)adran 40(2) (penodi awdurdod archwilio i archwilio cais i ddirymu neu newid gorchymyn cydsyniad seilwaith),
(b)adran 90 (pŵer i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith),
(c)adran 91 (y weithdrefn: newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith),
(d)adran 92 (newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith: trefniadau ffurfiol), ac eithrio fel y darperir ar ei chyfer yn erthygl 4,
(e)adran 93 (newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith: digolledu am newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith),
(f)adran 96(5) (heriau cyfreithiol),
(g)adran 96(6) ac (8) (heriau cyfreithiol), ac eithrio fel y darperir ar eu cyfer yn erthygl 4,
(h)adran 124(3)(a)(ii) (cyngor, gwybodaeth neu gymorth arall a ddarperir mewn cysylltiad â chais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith), ac
(i)Atodlen 2.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: