Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2025
Enwi a dehongli
1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2025.
2.
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd 2021.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Mawrth 2025
3.
Daw adran 79 (cynlluniau rheoli draenio a charthffosiaeth) o’r Ddeddf i rym ar 1 Mawrth 2025, i’r graddau y mae’n ymwneud ag ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym adran 79 o Ddeddf yr Amgylchedd 2021 (p. 30) (“y Ddeddf”). Y rhain yw’r ail reoliadau cychwyn sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.
Mae rheoliad 2 yn dwyn adran 79 o’r Ddeddf i rym ar 1 Mawrth 2025 i’r graddau y mae’n ymwneud ag ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mae adran 79 yn mewnosod adrannau newydd 94A i 94E yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991, er mwyn cyflwyno gofynion newydd ar ymgymerwyr carthffosiaeth i lunio, cyhoeddi a chynnal cynlluniau rheoli draenio a charthffosiaeth.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yng Nghymru drwy reoliadau cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 50 | 7 Mawrth 2022 (yn rhannol) | |
Adran 60 | 7 Mawrth 2022 (yn rhannol) | |
Adran 64 | 7 Mawrth 2022 (yn rhannol) | |
Atodlen 4 | 7 Mawrth 2022 (yn rhannol) |
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yng Nghymru a Lloegr drwy reoliadau cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adrannau 1 i 7 | 24 Ionawr 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adrannau 8 i 15 | 24 Ionawr 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adran 16 | 24 Ionawr 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adrannau 17 a 18 | 10 Mai 2022 | O.S. 2022/518 (C. 21) |
Adran 19 | 10 Mai 2022 (yn rhannol) 1 Tachwedd 2023 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | O.S. 2022/518 (C. 21) O.S. 2023/381 (C. 18) |
Adran 20 | 10 Mai 2022 | O.S. 2022/518 (C. 21) |
Adran 21 | 1 Ebrill 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adrannau 22 i 24 | 17 Tachwedd 2021 | O.S. 2021/1274 (C. 72) |
Adran 25 | 24 Ionawr 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adran 26 | 17 Tachwedd 2021 | O.S. 2021/1274 (C. 72) |
Adran 27 | 24 Ionawr 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adrannau 28 i 30 | 24 Ionawr 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adrannau 31 i 41 | 24 Ionawr 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adrannau 42 a 43 | 24 Ionawr 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adrannau 44 i 47 | 17 Tachwedd 2021 | O.S. 2021/1274 (C. 72) |
Adran 57 | 17 Mai 2024 | O.S. 2024/639 (C. 40) |
Adran 73 | 1 Mai 2022 (yn rhannol) | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Adrannau 74 i 77 | 17 Mai 2024 | O.S. 2024/639 (C. 40) |
Adran 81 | 17 Mai 2024 (yn rhannol) | O.S. 2024/639 (C. 40) |
Adran 81 | 1 Ionawr 2025 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | O.S. 2024/639 (C. 40) |
Adran 82(2) | 17 Mai 2024 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | O.S. 2024/639 (C. 40) |
Adrannau 100 a 101 | 17 Ionawr 2024 (yn rhannol) | O.S. 2024/44 (C. 4) |
Adran 116 | 30 Medi 2022 (yn rhannol) | O.S. 2022/518 (C. 21) |
Rhan 7 | 30 Medi 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Atodlen 12, Rhan 3 | 1 Mai 2022 | O.S. 2022/48 (C. 2) |
Atodlen 17 | 30 Medi 2022 (yn rhannol) |
Mae amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2021/1274 (C. 72), O.S. 2022/48 (C. 2), O.S. 2022/518 (C. 21), O.S. 2022/988 (C. 75), O.S. 2022/1266 (C. 100), O.S. 2023/381 (C. 18), O.S. 2023/1170 (C. 77), O.S. 2024/44 (C. 4) ac O.S. 2024/639 (C. 40).