Search Legislation

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2025

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2025 Rhif 175 (Cy. 37) (C. 7)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2025

Gwnaed

16 Chwefror 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 147(4)(g) o Ddeddf yr Amgylchedd 2021(1).

Enwi a dehongli

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2025.

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd 2021.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Mawrth 2025

3.  Daw adran 79 (cynlluniau rheoli draenio a charthffosiaeth) o’r Ddeddf i rym ar 1 Mawrth 2025, i’r graddau y mae’n ymwneud ag ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

Huw Irranca-Davies

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

16 Chwefror 2025

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym adran 79 o Ddeddf yr Amgylchedd 2021 (p. 30) (“y Ddeddf”). Y rhain yw’r ail reoliadau cychwyn sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 2 yn dwyn adran 79 o’r Ddeddf i rym ar 1 Mawrth 2025 i’r graddau y mae’n ymwneud ag ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mae adran 79 yn mewnosod adrannau newydd 94A i 94E yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991, er mwyn cyflwyno gofynion newydd ar ymgymerwyr carthffosiaeth i lunio, cyhoeddi a chynnal cynlluniau rheoli draenio a charthffosiaeth.

NODYN AM Y RHEOLIADAU CYCHWYN CYNHARACH

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yng Nghymru drwy reoliadau cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 507 Mawrth 2022 (yn rhannol)O.S. 2022/223 (Cy. 71) (C. 10)
Adran 607 Mawrth 2022 (yn rhannol)O.S. 2022/223 (Cy. 71) (C. 10)
Adran 647 Mawrth 2022 (yn rhannol)O.S. 2022/223 (Cy. 71) (C. 10)
Atodlen 47 Mawrth 2022 (yn rhannol)O.S. 2022/223 (Cy. 71) (C. 10)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yng Nghymru a Lloegr drwy reoliadau cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 1 i 724 Ionawr 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adrannau 8 i 1524 Ionawr 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adran 1624 Ionawr 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adrannau 17 a 1810 Mai 2022O.S. 2022/518 (C. 21)
Adran 19

10 Mai 2022 (yn rhannol)

1 Tachwedd 2023 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)

O.S. 2022/518 (C. 21)

O.S. 2023/381 (C. 18)

Adran 2010 Mai 2022O.S. 2022/518 (C. 21)
Adran 211 Ebrill 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adrannau 22 i 2417 Tachwedd 2021O.S. 2021/1274 (C. 72)
Adran 2524 Ionawr 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adran 2617 Tachwedd 2021O.S. 2021/1274 (C. 72)
Adran 2724 Ionawr 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adrannau 28 i 3024 Ionawr 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adrannau 31 i 4124 Ionawr 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adrannau 42 a 4324 Ionawr 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Adrannau 44 i 4717 Tachwedd 2021O.S. 2021/1274 (C. 72)
Adran 5717 Mai 2024O.S. 2024/639 (C. 40)
Adran 731 Mai 2022 (yn rhannol)O.S. 2022/48 (C. 2)
Adrannau 74 i 7717 Mai 2024O.S. 2024/639 (C. 40)
Adran 8117 Mai 2024 (yn rhannol)O.S. 2024/639 (C. 40)
Adran 811 Ionawr 2025 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)O.S. 2024/639 (C. 40)
Adran 82(2)17 Mai 2024 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)O.S. 2024/639 (C. 40)
Adrannau 100 a 10117 Ionawr 2024 (yn rhannol)O.S. 2024/44 (C. 4)
Adran 11630 Medi 2022 (yn rhannol)O.S. 2022/518 (C. 21)
Rhan 730 Medi 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Atodlen 12, Rhan 31 Mai 2022O.S. 2022/48 (C. 2)
Atodlen 1730 Medi 2022 (yn rhannol)O.S. 2022/518 (C. 21)

Mae amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2021/1274 (C. 72), O.S. 2022/48 (C. 2), O.S. 2022/518 (C. 21), O.S. 2022/988 (C. 75), O.S. 2022/1266 (C. 100), O.S. 2023/381 (C. 18), O.S. 2023/1170 (C. 77), O.S. 2024/44 (C. 4) ac O.S. 2024/639 (C. 40).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources