Mae’r offeryn hwn yn rhan o nifer o Reoliadau sy’n gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 mewn cysylltiad ag adeiladau risg uwch yng Nghymru.
O dan adran 121A o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”), yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r adeilad neu’r adeilad arfaethedig o dan sylw wedi ei leoli ynddi yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn gyffredinol. Fodd bynnag, pan fo awdurdod lleol yn cynnig cynnal gwaith adeilad risg uwch (fel y’i diffinnir yn adran 120I o Ddeddf 1984), gellir gwneud rheoliadau o dan adran 91ZD o Ddeddf 1984 yn dynodi awdurdod lleol arall yn awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer y gwaith hwnnw. Mae Rheoliadau o dan adran 91ZD i’w gwneud mewn man arall.
Mae’r gofynion a geir yn Rheoliadau Adeiladu 2010 yn gymwys ar hyn o bryd i adeiladau risg uwch. Mae diwygiadau (i’w gwneud mewn man arall) i’r Rheoliadau hynny yn datgymhwyso’r mwyafrif o’r gofynion gweithdrefnol a geir ynddynt mewn perthynas ag adeiladau risg uwch (gweler Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 am y diffiniad o adeilad risg uwch). O ganlyniad, bydd y gweithdrefnau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau risg uwch yn hytrach na’r gweithdrefnau yn Rheoliadau Adeiladu 2010.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu mewn perthynas ag adeiladau risg uwch. Rhaid cyflwyno ceisiadau i’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol a rhaid i’r planiau, y dogfennau a’r wybodaeth sy’n ofynnol fynd gyda’r ceisiadau hynny. Caiff cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu, gyda chydsyniad y ceisydd, fod yn ddarostyngedig i ofyniad, er enghraifft, na chaiff fwrw ymlaen y tu hwnt i bwynt penodol heb gytundeb yr awdurdod rheolaeth adeiladu neu y gallai planiau neu ddogfennau manylach gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn ddiweddarach.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r broses rheolaeth newid pan fo unrhyw un neu ragor o’r dogfennau yn ymwneud â’r gwaith a gymeradwywyd gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn ystod y cam gwneud cais (neu’n ddiweddarach o dan ofyniad neu newid a reolaethir) i’w newid. Gwneir darpariaeth hefyd yn y Rhan hon ar gyfer newid i’r cleient, y prif gontractwr neu’r prif ddylunydd, ansolfedd etc. cleient ac amrywio gofyniad a osodwyd ar gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn nodi darpariaethau mewn perthynas â’r wybodaeth llinyn aur, adrodd mandadol am achlysuron a throsglwyddo gwybodaeth pan gwblheir y gwaith.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am dystysgrifau cwblhau a thystysgrifau cwblhau rhannol mewn perthynas ag adeiladau risg uwch. Rhaid cyflwyno ceisiadau i’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol a rhaid i’r planiau a’r dogfennau sy’n ofynnol fynd gyda’r ceisiadau hynny.
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn nodi darpariaeth yn ymwneud ag arolygiadau, profi a samplu, unioni gwaith anawdurdodedig a’r weithdrefn o dan adran 30A o Ddeddf 1984 (sy’n darparu y gellir gofyn i Weinidogion Cymru benderfynu cais pan nad yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu wedi penderfynu o fewn y terfyn amser a ragnodwyd).
Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn diffinio gwaith esempt, yn rhoi i’r awdurdod rheolaeth adeiladu y pŵer drwy gyfarwyddyd i wneud cais drwy ddull penodedig yn ofynnol, a hefyd yn nodi’r darpariaethau hynny y caniateir rhoi hysbysiad stop o dan adran 35C o Ddeddf 1984 mewn perthynas â hwy. Mae Rhan 7 hefyd yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 a Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010.
Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn yn nodi darpariaethau trosiannol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddwyd ar www.llyw.cymru.