xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
10 Medi 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 7) 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
2.—(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 13 Medi 2024—
(a)adran 59 (darpariaeth gyffredinol ynghylch trwyddedau triniaeth arbennig) i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 3;
(b)adran 60 (unigolion sydd wedi eu hesemptio);
(c)adran 62 (meini prawf trwyddedu);
(d)adran 63 (amodau trwyddedu mandadol);
(e)adran 69 (rhoi triniaeth arbennig yng nghwrs busnes: gofyniad i gael cymeradwyaeth);
(f)adran 70 (cymeradwyo mangreoedd a cherbydau mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig);
(g)adran 71 (tystysgrifau cymeradwyo);
(h)adran 72 (terfynu cymeradwyaeth yn wirfoddol);
(i)adran 76 (ffioedd);
(j)adran 94 (dehongli’r Rhan hon);
(k)Atodlen 3 (darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrwyddedau triniaeth arbennig).
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 13 Medi 2024—
(a)adran 64 (ymgynghori ynghylch meini prawf trwyddedu ac amodau trwyddedu mandadol);
(b)adran 94 (dehongli’r Rhan hon) at ddibenion adran 64.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Medi 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ar 13 Medi 2024 ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2(1) yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf i’r graddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ran 4 o’r Ddeddf ac Atodlen 3 iddi. Mae erthygl 2(2) yn dwyn i rym adran 64 (ymgynghori ynghylch meini prawf trwyddedu ac amodau trwyddedu mandadol) o’r Ddeddf. Mae erthygl 2(2) hefyd yn dwyn i rym adran 94 (dehongli’r Rhan hon) o’r Ddeddf at ddibenion adran 64.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
(1) Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn. | ||
(2) Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn. | ||
Adran 2 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Adran 3 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Adran 4 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 5 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 6 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 6 (y gweddill) | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 7 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 8 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 9 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 10 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 10 (y gweddill) | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 11 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 11 (y gweddill) | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 12 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 13 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 14 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 15 | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 16 | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 17 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 17 (y gweddill) | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 18 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 18 (y gweddill) | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 19 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 20 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 21 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 22 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 23 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 24 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 25 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 26 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 27 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 27 (y gweddill) | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 28 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Adran 28 (y gweddill) | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 29 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Adran 94 (yn rhannol) | 1 Chwefror 2018 | 2018/1 (Cy. 1) (1) |
Rhan 5 | 1 Chwefror 2018 | 2018/1 (Cy. 1) |
Rhan 7 | 1 Ebrill 2019 | 2019/829 (Cy. 152) (2) |
Rhan 8 | 31 Mai 2018 | 2018/605 (Cy. 116) (C. 48) |
Adran 119 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
Atodlen 1 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
Atodlen 1 (y gweddill) | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Atodlen 2 | 1 Mawrth 2021 | 2021/202 (Cy. 49) (C. 5) |
Atodlen 4 | 31 Mai 2018 | 2018/605 (Cy. 116) (C. 48) |
Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).