Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (“Deddf 2023”). Mae Deddf 2023 yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn ffurfio rhan o’r Cod hwnnw.
Mae Deddf 2023 yn gwarchod henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Gall heneb fod yn adeilad, strwythur, gwaith, ogof neu gloddiad, neu safle. Mae Deddf 2023 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofnod (y cyfeirir ato fel “cofrestr”) o henebion yng Nghymru sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Ni chaniateir i fathau penodol o waith gael eu cyflawni i “heneb gofrestredig” oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru. Yr enw ar yr awdurdodiad hwn yw “cydsyniad heneb gofrestredig” ac fe’i rhoddir o dan Ran 2 o Ddeddf 2023.
Mae’r fframwaith ar gyfer ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig wedi ei nodi yn adrannau 14 a 15 o Ddeddf 2023. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau o’r fath sy’n ymwneud â henebion cofrestredig yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys cais am gydsyniad heneb gofrestredig, sut i wneud cais o’r fath, a’r dogfennau y mae rhaid eu cynnwys gydag ef.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992 (“Rheoliadau 1992”). Mae Rheoliadau 1992 yn cysoni’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud ceisiadau a chynnal ymchwiliadau pan fo cais a wneir o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad heneb gofrestredig.
Mae rheoliad 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016.
Mae rheoliad 5 yn dirymu Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.