NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (“Deddf 2023”). Mae Deddf 2023 yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn ffurfio rhan o’r Cod hwnnw.

Mae Deddf 2023 yn gwarchod adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a all gynnwys adeiladau neu strwythurau. Mae’r Ddeddf honno yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnal rhestr o adeiladau o’r fath yng Nghymru. Ni chaniateir i fathau penodol o waith gael eu cyflawni i “adeilad rhestredig” oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod cynllunio neu gan Weinidogion Cymru. Yr enw ar yr awdurdodiad hwn yw “cydsyniad adeilad rhestredig” ac fe’i rhoddir o dan Ddeddf 2023.

Mae’r fframwaith ar gyfer ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a newidiadau iddo wedi ei nodi yn adrannau 90 i 99 o Ddeddf 2023. Mae’r fframwaith ar gyfer apelau mewn perthynas â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig wedi ei nodi yn adrannau 100 i 104 o’r Ddeddf honno. Mae darpariaethau ynghylch cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill yn adran 205 o’r Ddeddf honno.

Mae Deddf 2023 hefyd yn gwarchod ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae’r Ddeddf honno yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio benderfynu pa ardaloedd o’r fath y mae’n ddymunol eu diogelu neu eu gwella, a dynodi ardaloedd o’r fath yn “ardaloedd cadwraeth”. Yn fras, mae gwaith ar gyfer dymchwel adeilad mewn ardal gadwraeth wedi ei wahardd oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod cynllunio. Yr enw ar yr awdurdodiad hwn yw “cydsyniad ardal gadwraeth” ac fe’i rhoddir o dan Ran 4 o Ddeddf 2023.

Mae’r fframwaith ar gyfer ceisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth ac apelau mewn perthynas â cheisiadau o’r fath yn seiliedig ar y fframwaith ar gyfer adeiladau rhestredig ac fe’i nodir yn adran 163 o Ddeddf 2023.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig, pan fo’r ceisiadau hynny yn ymwneud ag adeiladau rhestredig yng Nghymru. Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch hysbysu pobl ynglŷn â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth, a rhoi cyhoeddusrwydd i’r ceisiadau hynny.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys cais am gydsyniad adeilad rhestredig, a sut i wneud cais o’r fath.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y materion y mae rhaid i’r datganiad a elwir yn ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth eu disgrifio a’u hesbonio. Mae adran 90(4) o Ddeddf 2023 yn ei gwneud yn ofynnol cynnwys y datganiad gyda chais am gydsyniad adeilad rhestredig.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig roi hysbysiad, cyn gwneud cais, i unrhyw berchnogion eraill ar yr adeilad. Mae hefyd yn nodi sut y mae rhaid rhoi’r hysbysiad hwnnw.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i geiswyr ddarparu tystysgrif gyda’u cais am gydsyniad adeilad rhestredig sy’n nodi’r camau y maent wedi eu cymryd i roi hysbysiad.

Mae rheoliad 7 ac Atodlen 1 yn ymdrin â chydnabod cais am gydsyniad adeilad rhestredig.

Mae rheoliad 8 yn nodi’r gofynion ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio hysbysu’r cymdeithasau amwynder a restrir a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru pan fydd yn cael cais am gydsyniad adeilad rhestredig sy’n cynnwys dymchwel adeilad neu ddymchwel adeilad yn rhannol.

Mae rheoliad 10 yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn pan fydd cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 94 o Ddeddf 2023.

Mae rheoliad 11 yn datgymhwyso’r gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru am geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig yn adran 95(1) o Ddeddf 2023 mewn cysylltiad â gwaith nad yw ond yn effeithio ar y tu mewn i adeilad a ddosberthir yn Radd II (heb seren).

Mae rheoliad 12 yn gosod gofynion ynghylch gwneud penderfyniadau ar geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig.

Mae rheoliad 13 ac Atodlen 2 yn nodi’r gofynion ar gyfer hysbysu ceisydd am y penderfyniad ar ei gais am gydsyniad adeilad rhestredig, neu fod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru am benderfyniad.

Mae rheoliad 14 yn cymhwyso ac yn addasu gofynion rheoliad 9, ynghylch hysbysu cymdeithasau amwynder cenedlaethol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru am geisiadau, i benderfyniadau ar geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig.

Mae rheoliad 15 yn cymhwyso ac yn addasu darpariaethau rheoliadau 3 i 14 i geisiadau i amrywio neu ddileu amodau cydsyniad adeilad rhestredig. Mae hefyd yn cyflwyno ffurflen yn Atodlen 3.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y weithdrefn ar gyfer apelau mewn perthynas â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig.

Mae rheoliad 16 yn nodi’r weithdrefn, gan gynnwys gofynion ynghylch rhoi hysbysiad a darparu gwybodaeth, ar gyfer gwneud apêl mewn perthynas â chais am gydsyniad adeilad rhestredig.

Mae rheoliad 17 yn nodi pryd y gellir amrywio cais am gydsyniad adeilad rhestredig ar ôl i hysbysiad o apêl gael ei roi.

Mae rheoliad 18 yn rhagnodi mai 4 wythnos yw’r cyfnod pan na chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl yn erbyn methiant i roi hysbysiad o benderfyniad.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer achosion arbennig, sef ceisiadau gan awdurdodau cynllunio ac mewn cysylltiad â thir y Goron (tir y mae buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth ynddo).

Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth i geisiadau gan awdurdod cynllunio am gydsyniad adeilad rhestredig i ddymchwel gael eu gwneud i Weinidogion Cymru. Mae hefyd yn cymhwyso ac yn addasu rhannau priodol o Ddeddf 2023 a’r Rheoliadau hyn at y diben hwnnw.

Mae rheoliad 20 yn darparu nad oes hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad a wneir gan awdurdod cynllunio ar gais gan awdurdod cynllunio am gydsyniad adeilad rhestredig.

Mae rheoliad 21 yn addasu darpariaethau yn y Rheoliadau hyn pan fydd cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei wneud mewn cysylltiad â thir y Goron.

Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron ac yn addasu’r Rheoliadau hyn at y diben hwnnw.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ardaloedd cadwraeth.

Mae rheoliad 23 yn cyfyngu’r gofyniad cyffredinol yn adran 161(1) o Ddeddf 2023 i ddymchweliad adeilad mewn ardal gadwraeth gael ei awdurdodi. Mae’n rhestru’r adeiladau nad yw’r gofyniad i ddymchweliad mewn ardaloedd cadwraeth gael ei awdurdodi yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 24 yn cymhwyso’r darpariaethau perthnasol yn y Rheoliadau hyn i geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth a materion cysylltiedig megis apelau. Mae hefyd yn addasu darpariaethau yn y Rheoliadau hyn at y diben hwnnw.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth amrywiol ac yn cynnwys diwygiadau canlyniadol. Mae hefyd yn dirymu offerynnau statudol darfodedig ac yn tynnu’n ôl gyfarwyddydau darfodedig.

Mae rheoliad 25 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer hysbysebu gorchymyn dirymu neu orchymyn addasu diwrthwynebiad a wneir o dan adran 107 o Ddeddf 2023.

Mae rheoliad 26 yn rhagnodi’r gyfradd llog ar gyfer cost gwaith brys a gyflawnir o dan adran 145 o Ddeddf 2023.

Mae rheoliad 27 ac Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol. Maent yn cynnwys diwygiadau sy’n addasu’r gweithdrefnau yn y Rheoliadau hyn i geisiadau sy’n gysylltiedig â chynigion o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 neu gynigion sydd ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Mae rheoliad 28 ac Atodlen 5 yn dirymu offerynnau statudol ac yn tynnu’n ôl gyfarwyddydau.

Yr offerynnau statudol sydd wedi eu dirymu yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 ac offerynnau diwygio dilynol, a Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017.

Y Cyfarwyddydau sydd wedi eu tynnu’n ôl yw Cyfarwyddyd Ceisiadau a Phenderfyniadau Adeilad Rhestredig (Dyletswydd i Hysbysu Cymdeithasau Amwynder Cenedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol) (Cymru) 2022, Cyfarwyddyd Ceisiadau Cydsyniad Adeilad Rhestredig (Datgymhwyso Dyletswydd i Hysbysu Gweinidogion Cymru) (Cymru) 2017 Rhif 25 a Chyfarwyddyd Ardaloedd Cadwraeth (Datgymhwyso Gofyniad i Gael Cydsyniad Ardal Gadwraeth er mwyn Dymchwel) (Cymru) 2017 Rhif 27.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.