NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (“Deddf 2023”) yn cydgrynhoi’r brif ddeddfwriaeth ar gyfer cadwraeth yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae Deddf 2023 yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.

Y prif Ddeddfau a ddygwyd ynghyd yn yr ymarfer cydgrynhoi hwnnw yw Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion Hynafol 1953 (p. 49), Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p. 46), Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4). Gwnaeth Deddf 2023 rai newidiadau i’r derminoleg a ddefnyddir yn y Deddfau hynny.

Mae Deddf 2023 hefyd yn ailddatgan darpariaethau a geir ar hyn o bryd mewn Deddfau eraill sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol. Mae’r rhain yn cynnwys Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70), Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5). Mae Deddf 2023 hefyd yn ymgorffori rhai darpariaethau o is-ddeddfwriaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar Ddeddf 2023 i is-ddeddfwriaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.