- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Yr Amgylchedd Hanesyddol, Cymru
Gwnaed
16 Awst 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 212(2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023(1).
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Cychwyn) 2024.
2.—(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 i rym ar 9 Medi 2024—
(a)adran 14(3) (rheoliadau sy’n ymwneud â gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig);
(b)adran 26(5) a (6) (rheoliadau sy’n ymwneud â chytundebau partneriaethau henebion cofrestredig);
(c)adran 90(3), (4) a (5) (rheoliadau sy’n ymwneud â gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig);
(d)adran 91(1), (2) a (4) (rheoliadau sy’n ymwneud â hysbysiad o gais i berchnogion adeilad);
(e)adran 92(2) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig);
(f)adran 95(4), (5), (6) a (7) (rheoliadau a chyfarwyddydau sy’n ymwneud â hysbysu Gweinidogion Cymru cyn rhoi cydsyniad);
(g)adran 100(4)(a) (rheoliadau sy’n pennu’r cyfnod penderfynu at ddibenion apelio);
(h)adran 101(3) a (5) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r weithdrefn ar gyfer gwneud apêl);
(i)adran 105 (rheoliadau sy’n ymwneud â cheisiadau gan awdurdodau cynllunio a’r Goron);
(j)adran 114(5) (rheoliadau sy’n ymwneud â chytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig);
(k)adran 156(1) a (3) (rheoliadau sy’n ymwneud ag adeiladau crefyddol esempt);
(l)adran 161(2)(c) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r gofyniad i ddymchweliad gael ei awdurdodi);
(m)adran 170 (rheoliadau sy’n ymwneud â’r ffurf ar ddogfennau).
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 i rym ar 9 Medi 2024 at ddiben gwneud rheoliadau—
(a)adran 102(1) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r cyfyngiad ar amrywio cais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêl);
(b)adran 103(2) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r cyfnod ar gyfer penderfynu apêl);
(c)adran 106(5) (rheoliadau sy’n ymwneud â cheisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron);
(d)adran 107(3)(a) (sy’n cyflwyno Rhan 1 o Atodlen 8: y weithdrefn ar gyfer gorchmynion sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig);
(e)adran 146(1) (rheoliadau sy’n ymwneud â llog ar gostau gwaith diogelu a adenillir);
(f)Atodlen 8, paragraff 3(2)(a) (rheoliadau sy’n ymwneud â’r weithdrefn i orchmynion addasu neu ddirymu gymryd effaith heb gadarnhad).
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 i rym ar 4 Tachwedd 2024 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)Rhan 2;
(b)Rhan 3 ac eithrio adran 147 (camau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael);
(c)Rhannau 4 i 7;
(d)Atodlenni 1 i 14.
Jane Hutt
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru
16 Awst 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dygwyd y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (“Deddf 2023”) i rym gan adran 212 o’r Ddeddf honno ar 15 Mehefin 2023, sef drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 1 (trosolwg);
(b)adran 209 (rheoliadau o dan y Ddeddf honno);
(c)adran 210 (dehongli);
(d)adran 211(3) a (4) (darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol mewn rheoliadau);
(e)adran 212 (dod i rym);
(f)adran 213 (enw byr).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf 2023 sy’n weddill, ac eithrio adran 147, sy’n ymwneud â chamau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael.
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym bwerau penodedig i wneud rheoliadau a chyfarwyddydau ar 9 Medi 2024.
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym y darpariaethau nad ydynt wedi eu cychwyn yn Neddf 2023 sy’n weddill, ac eithrio adran 147, at ddibenion sy’n weddill o 4 Tachwedd 2024 ymlaen.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: