xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym yng Nghymru, ar 1 Medi 2024, baragraffau 10 i 16 a pharagraff 18 o Atodlen 3 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) (“y Ddeddf”), ac, yn rhannol, adran 36 o’r Ddeddf honno. Dyma’r trydydd rheoliadau cychwyn o dan y Ddeddf sy’n gymwys o ran Cymru.
Mae rheoliad 2(a) yn dwyn i rym baragraffau 10 i 16 o Atodlen 3 i’r Ddeddf sy’n darparu ar gyfer diwygio Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) (“Deddf 1986”) mewn perthynas ag olyniaeth ar farwolaeth neu ymddeoliad tenant a’r amod y mae rhaid i ymgeiswyr ei fodloni sy’n ymwneud â meddiannu uned fasnachol.
Mae rheoliad 2(b) yn dwyn i rym baragraff 18 o Atodlen 3 i’r Ddeddf sy’n darparu ar gyfer diwygio adran 53 o Ddeddf 1986 mewn perthynas ag olyniaeth ar farwolaeth neu ymddeoliad tenant a’r amod y mae rhaid i ymgeiswyr ei fodloni sy’n ymwneud ag addasrwydd o ran ceisiadau am denantiaeth daliad gan olynydd enwebedig.
Mae rheoliad 2(c) yn dwyn i rym adran 36 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau uchod.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol.