xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Gwnaed
9 Gorffennaf 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 57(3)(a) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (“Deddf 2020”) i rym ar 1 Medi 2024—
(a)paragraffau 10 i 16 o Atodlen 3 (olyniaeth ar farwolaeth neu ymddeoliad: amod sy’n ymwneud â meddiannu uned fasnachol),
(b)paragraff 18 o Atodlen 3 (olyniaeth ar farwolaeth neu ymddeoliad: amod sy’n ymwneud ag addasrwydd), ac
(c)adran 36, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw gais i’r Tribiwnlys a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 1986 am gyfarwyddyd sy’n rhoi i’r ceisydd hawlogaeth i denantiaeth daliad amaethyddol ar farwolaeth neu ymddeoliad tenant pan fo dyddiad y farwolaeth neu’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad am yr ymddeoliad, fel y bo’n gymwys, cyn 1 Medi 2024.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw gais y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, mae Rhan 4 o Ddeddf 1986 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl 1 Medi 2024 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y dyddiad hwnnw, fel pe bai’r diwygiadau a wnaed gan baragraffau 10 i 16 o Atodlen 3 i Ddeddf 2020 heb ddod i rym.
(3) Yn y rheoliad hwn—
mae “cais” (“application”) yn cynnwys unrhyw achos sy’n deillio o unrhyw gais o’r fath neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir mewn unrhyw achos o’r fath;
ystyr “Deddf 1986” (“the 1986 Act”) yw Deddf Daliadau Amaethyddol 1986(2).
(4) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y rheoliad hwn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rhan 4 o Ddeddf 1986 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rhan honno.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym yng Nghymru, ar 1 Medi 2024, baragraffau 10 i 16 a pharagraff 18 o Atodlen 3 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) (“y Ddeddf”), ac, yn rhannol, adran 36 o’r Ddeddf honno. Dyma’r trydydd rheoliadau cychwyn o dan y Ddeddf sy’n gymwys o ran Cymru.
Mae rheoliad 2(a) yn dwyn i rym baragraffau 10 i 16 o Atodlen 3 i’r Ddeddf sy’n darparu ar gyfer diwygio Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) (“Deddf 1986”) mewn perthynas ag olyniaeth ar farwolaeth neu ymddeoliad tenant a’r amod y mae rhaid i ymgeiswyr ei fodloni sy’n ymwneud â meddiannu uned fasnachol.
Mae rheoliad 2(b) yn dwyn i rym baragraff 18 o Atodlen 3 i’r Ddeddf sy’n darparu ar gyfer diwygio adran 53 o Ddeddf 1986 mewn perthynas ag olyniaeth ar farwolaeth neu ymddeoliad tenant a’r amod y mae rhaid i ymgeiswyr ei fodloni sy’n ymwneud ag addasrwydd o ran ceisiadau am denantiaeth daliad gan olynydd enwebedig.
Mae rheoliad 2(c) yn dwyn i rym adran 36 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau uchod.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 wedi eu dwyn i rym yng Nghymru drwy reoliadau cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.
| Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adran 46 (yn rhannol) | 1.1.2021 | 2020/1648 (Cy. 346) (C. 51) |
| Paragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 | 1.1.2021 | 2020/1648 (Cy. 346) (C. 51) |
| Rhan 4 o Atodlen 7 | 13.12.2022 | 2022/1204 (Cy. 248) (C. 94) |
| Adran 52 (yn rhannol) | 13.12.2022 | 2022/1204 (Cy. 248) (C. 94) |