Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Ddeddf Caffael 2023 (p. 54) (“Deddf 2023”).
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys y rhai sy’n nodi cymhwysiad y Rheoliadau a diffiniadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch tryloywder caffaeliadau a gyflawnir gan awdurdodau contractio, sy’n awdurdodau Cymreig datganoledig, neu sydd i’w trin fel awdurdod Cymreig datganoledig o dan Ddeddf 2023. Mae rheoliad 5(1) yn darparu bod rhaid yn gyntaf gyhoeddi hysbysiadau neu ddogfennau penodol neu wybodaeth benodol, neu fod rhaid eu rhoi drwy eu cyhoeddi, ar y platfform digidol canolog sy’n system ar-lein a ddarperir gan Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU (“Swyddfa’r Cabinet”) yn y cyfeiriad gwefan canlynol: https://www.gov.uk/find-tender.
Mae rheoliad 5(2) yn darparu y cydymffurfir â rheoliad 5(1) pan fo’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth wedi ei gyflwyno neu wedi ei chyflwyno i’r platfform digidol Cymreig, a phan fo Swyddfa’r Cabinet wedi rhoi gwybod i’r awdurdod contractio y cyflwynwyd yr hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth yn llwyddiannus neu ei fod neu ei bod yn hygyrch i gyflenwyr ac i aelodau o’r cyhoedd. Y platfform digidol Cymreig yw’r system ar-lein a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio gan awdurdodau contractio y mae rheoliad 2 yn gymwys iddynt. Gellir dod o hyd i’r platfform hwn ar y wefan a ganlyn: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru.
Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch y modd y mae gwybodaeth graidd y cyflenwr (megis gwybodaeth personau cysylltiedig cyflenwr) yn cael ei rhannu ag awdurdod contractio gyda golwg ar ddyfarnu contract cyhoeddus neu gontract hysbysadwy sydd o dan y trothwy. Maent yn darparu bod rhaid i’r awdurdod gael cadarnhad bod y cyflenwr wedi rhannu’r wybodaeth honno drwy’r platfform digidol canolog, neu ei fod wedi cofrestru ar y platfform hwnnw cyn dyddiad cau. Mae rheoliadau 10 i 13 yn nodi pa wybodaeth sy’n wybodaeth graidd y cyflenwr.
Mae rheoliadau 14 i 42 yn gwneud darpariaeth ynghylch pa wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiadau neu ddogfennau y mae rhaid eu cyhoeddi, neu wybodaeth y mae rhaid ei chyhoeddi, o dan Ddeddf 2023. Mewn rhai achosion, mae darpariaeth yn pennu gwybodaeth ychwanegol i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan Ddeddf 2023 ei hun yn unol â’r pwerau i wneud rheoliadau a ddarperir gan y Ddeddf honno. Er enghraifft, mae rheoliad 18 yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, yn ogystal â’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn unol ag adran 17(2)(a) o Ddeddf 2023 fel y’i caniateir yn benodol gan adran 17(2)(b) o’r Ddeddf honno.
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth sy’n ychwanegu at Ddeddf 2023 heblaw mewn perthynas â mesurau tryloywder.
Mae rheoliad 43 ac Atodlen 1 yn pennu’r categorïau o wasanaethau sy’n cymhwyso fel “gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn” at ddiben adran 9 o Ddeddf 2023. Os yw gwasanaeth yn wasanaeth “cyffyrddiad ysgafn”, caniateir ei gaffael yn unol â rheolau sy’n wahanol i’r rhai sy’n gymwys i’r mathau eraill o gontract, y mae eu caffael wedi ei gwmpasu gan Ddeddf 2023. Mae’r darpariaethau hyn hefyd yn nodi pa un neu ragor o’r gwasanaethau hynny sy’n “gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy” at ddiben adran 33 o Ddeddf 2023, fel y caiff awdurdod contractio ddarparu mai dim ond cwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymhwysol, fel y’i diffinnir yn adran 33(5) o Ddeddf 2023, a all wneud cais am gontract ar gyfer y gwasanaethau hynny.
Mae rheoliadau 44 a 45 ac Atodlenni 2 a 3 yn diffinio’r termau “central government authority” (“awdurdod llywodraeth ganolog”) a “works” (“gweithiau”) fel y’u defnyddir yn Neddf 2023. Yn Atodlen 2, mae’r endidau a ddiffinnir fel awdurdodau llywodraeth ganolog wedi eu rhestru o dan y penawdau “awdurdod arweiniol” ac “awdurdod perthynol” er mwyn darparu cysondeb â’r ffordd y mae’r awdurdodau Cymreig wedi eu cwmpasu gan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau, fel y’u nodir yn yr atodiadau i’r Cytundeb hwnnw.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddf 2023, ac i is-ddeddfwriaeth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn a gellir cael copi oddi wrth: Y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.