Offerynnau Statudol Cymru
2024 Rhif 782 (Cy. 121)
Caffael Cyhoeddus, Cymru
Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
Gwnaed
3 Gorffennaf 2024
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 9(2), 33(8), 69(4), 87(7), 95(1), (2) a (3), 97(1) a (2), 121(1) a (2), 122(3) a 125 o Ddeddf Caffael 2023(2), a pharagraff 5(1) o Atodlen 1 iddi.
Yn unol ag adran 121(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli barn cyfleustodau preifat, yn ogystal ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
Yn unol ag adran 122(10)(b), (c), (e), (h), (l), (m), (o), (q) ac (r) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Gweinidogion Cymru yw’r “awdurdod priodol” fel y diffinnir “appropriate authority” yn adran 123(1) o Ddeddf Caffael 2023, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a nodir yn adran 111(1) o’r Ddeddf honno.