- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Ychwanegion Bwyd a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau a Diwygiadau Amrywiol) a Chyflasynnau Bwyd (Dileu Awdurdodiadau) (Cymru) 2024, Introductory Text.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
5 Mehefin 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
7 Mehefin 2024
Yn dod i rym
28 Mehefin 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
Erthyglau 7(4) a (5) a 14A(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1331/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd(1);
Erthyglau 12(1) a 32A(3)(b) o Reoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwydydd newydd(2).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ceisio cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi rhoi sylw i’r cyngor hwnnw, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 7(4) a (5) o Reoliad (EC) Rhif 1331/2008 (mewn perthynas â Rhannau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn)(3).
Ymgynghorwyd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4).
Diwygiadau Testunol
F1Rheoliadau wedi eu dirymu (yn eithrio rhl. 5 a rhlau. 1, 4(2)(a)-(v) i'r graddau eu bod yn ymwneud â rhl. 5) (1.4.2025) gan The Food and Feed (Regulated Products) (Amendment, Revocation, Consequential and Transitional Provision) Regulations 2025 (O.S. 2025/361), rhl. 1(2), Atod. 2 (h) (ynghyd â rhl. 23)
EUR 2008/1331, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/860, 2022/1351. Diwygiwyd O.S. 2019/860 gan O.S. 2020/1504. Diffinnir y termau “domestic list”, “prescribe” ac “appropriate authority” yn Erthygl 2 o EUR 2008/1331. Diffinnir y term “sectoral food law” yn Erthygl 1(2) o EUR 2008/1331. Mewn perthynas â Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn, mae Erthygl 7(5) o EUR 2008/1331 yn gymwys yn unol ag Erthyglau 10(3), 14 a 30(4) o Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd (EUR 2008/1333). Mewn perthynas â Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, mae Erthygl 7(4) o EUR 2008/1331 yn gymwys yn unol ag Erthygl 11(3) o Reoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd (EUR 2008/1334).
EUR 2015/2283, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/702; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Diwygiwyd O.S. 2019/702 gan O.S. 2020/1504. Diffinnir y termau “prescribe”, “appropriate authority” a “list” yn Erthygl 3 o EUR 2015/2283. Mae Erthygl 12(1) o EUR 2015/2283 yn gymwys yn unol ag Erthyglau 9 a 27(1) o’r Rheoliad hwnnw.
Diffinnir y term “Authority” yn Erthygl 2(3) o EUR 2008/1331.
EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: