- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Hysbysiad gorfodi yw hysbysiad ysgrifenedig sy’n—
(a)ei gwneud yn ofynnol bod person yn cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliadau hyn,
(b)ei gwneud yn ofynnol i berson leihau cyfradd gweithredu lladd-dy i’r fath raddau a bennir yn yr hysbysiad hyd nes bod y person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni achos o dorri’r Rheoliadau hyn, neu
(c)gwahardd person rhag cyflawni unrhyw weithgaredd, proses neu weithrediad, neu ddefnyddio cyfleusterau neu gyfarpar, fel y’i pennir yn yr hysbysiad hyd nes y bydd y person wedi cymryd camau penodedig i unioni achos o dorri’r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff arolygydd sydd o’r farn bod person wedi torri neu yn torri’r Rheoliadau hyn gyflwyno hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad gorfodi—
(a)datgan bod yr arolygydd o’r farn bod person wedi torri neu yn torri’r Rheoliadau hyn,
(b)datgan dyddiad ac amser cyflwyno’r hysbysiad,
(c)nodi derbynnydd yr hysbysiad,
(d)pennu’r materion sy’n ffurfio’r toriad,
(e)pennu’r camau y mae rhaid eu cymryd i unioni’r toriad,
(f)pennu’r cyfnod y mae rhaid i’r camau hynny gael eu cymryd ynddo, a
(g)rhoi manylion yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad.
(4) Rhaid i berson y cyflwynir hysbysiad gorfodi iddo gydymffurfio ag ef ar ei draul ei hun.
(5) Os na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi, caiff arolygydd drefnu cydymffurfedd ag ef ar draul y person y cafodd ei gyflwyno iddo.
(6) Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad cwblhau i berson os yw arolygydd, ar ôl cyflwyno hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw, yn fodlon bod y person hwnnw wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad i unioni’r toriad.
(7) Os na fydd arolygydd wedi ei fodloni, fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (6), erbyn diwedd y cyfnod a bennir o dan baragraff (3)(f), neu unrhyw gyfnod arall a gaiff ei bennu mewn unrhyw amrywiad i’r hysbysiad gorfodi o dan baragraff (9), ni chaiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad cwblhau, a rhaid i’r arolygydd gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig, y mae rhaid iddo—
(a)rhoi rhesymau dros y penderfyniad i beidio â chyflwyno hysbysiad cwblhau, a
(b)rhoi manylion yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(8) Mae hysbysiad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir hysbysiad cwblhau.
(9) Caiff arolygydd dynnu’n ôl neu amrywio hysbysiad gorfodi yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: