- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
5.—(1) Caiff arolygydd sydd wedi cael mynediad i fangre i weithredu a gorfodi Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 neu Reoliad yr UE neu Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007(1), at y dibenion hynny, neu i weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn—
(a)arolygu system TCC y cyfeirir ati yn rheoliad 3 ar y mangreoedd hynny ac unrhyw ddelweddau neu wybodaeth a geir gan system TCC o’r fath,
(b)ymafael yn unrhyw ddelweddau neu wybodaeth a geir gan system TCC o’r fath neu gymryd copi ohonynt,
(c)ymafael yn unrhyw offer TCC, gan gynnwys cyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig, a osodir fel rhan o system TCC o’r fath nad yw’n cydymffurfio â rheoliad 3(2)(a), at ddibenion copïo delweddau neu wybodaeth,
(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu mynediad at system TCC y cyfeirir ati yn rheoliad 3 ar gais at ddibenion gweld delweddau a gwybodaeth a geir gan y system honno,
(e)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddangos unrhyw ddelweddau neu wybodaeth sy’n cael eu cadw a’u storio a sicrhau eu bod ar gael i’w harolygu fel sy’n ofynnol gan reoliad 4 ar gais,
(f)gwneud unrhyw ymholiadau, a chymryd recordiadau neu ffotograffau,
(g)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfen neu gofnod yn ddi-oed ac arolygu dogfen neu gofnod o’r fath a chymryd copi neu ddarn ohonynt, a
(h)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth, cyfleusterau neu gyfarpar fel sy’n rhesymol, yn ddi-oed.
(2) Rhaid i arolygydd—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu i’r person yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw eitemau y mae’r swyddog yn ymafael ynddynt o dan baragraff (1) dderbynneb ysgrifenedig yn nodi’r eitemau hynny, a
(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penderfynu nad yw’r eitemau hynny yn ofynnol mwyach, eu dychwelyd i’r person hwnnw, ar wahân i’r eitemau hynny sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.
(3) Pan fo arolygydd wedi ymafael mewn eitemau o dan baragraff (1) i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys ac—
(a)penderfynir yn ddiweddarach—
(i)nad oes achos llys i gael ei ddwyn, neu
(ii)nad oes angen yr eitemau hynny mwyach fel tystiolaeth mewn achos llys, neu
(b)cwblheir yr achos llys heb i’r llys wneud unrhyw orchymyn mewn perthynas â’r eitemau hynny,
rhaid i arolygydd ddychwelyd yr eitemau i’r person sy’n ymddangos yn gyfrifol amdanynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: