NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (O.S. 2010/2215) (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”), Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541) (“Gorchymyn 2005”) a Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 (O.S. 2012/3118) (“Rheoliadau 2012”) o ganlyniad i Ran 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“Deddf 2022”). Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn cychwyn adran 49(1) a (2) o Ddeddf 2022.

Mae Rhan 3 o Ddeddf 2022 yn diwygio Deddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”) ac yn diffinio’r cwmpas a’r darpariaethau ar gyfer y gyfundrefn yn ystod cyfnod dylunio ac adeiladu adeiladau risg uwch. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cofrestru arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu i reoleiddio’n well a gwella lefelau cymhwysedd yn y sector rheolaeth adeiladu.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau penodol o Reoliadau Arolygwyr Cymeradwy i ddiwygio cyfeiriadau at “approved inspector” i “approver” fel eu bod yn parhau i fod yn gymwys i gymeradwywyr rheolaeth adeiladu gofrestredig. Mae’r term “approver” wedi ei ddiffinio yn rheoliad 2 o Reoliadau Arolygwyr Cymeradwy fel “registered building control approver”.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn 2005 ac mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau 2012 ond gan fewnosod y termau sy’n cyd-fynd â’r offerynnau hynny.

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliadau 3, 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn, bydd y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys i arolygwyr cymeradwy ar gyfer y cyfnod pontio (6 Ebrill 2024 i 1 Hydref 2024).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.