Gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol: eithriad rhag cwmpas gwasanaethau cartref gofal3
Yn rheoliad 2(1) (gwasanaethau cartrefi gofal)—
a
ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle’r atalnod llawn rhodder “;”;
b
ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—
l
y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion mewn gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys oni bai—
i
bod yr awdurdod lleol yn llwyr gyfrifol am ddarparu’r gofal canolraddol, a
ii
bod y gofal canolraddol yn cael ei ddarparu am ddim mwy nag un wythnos ar bymtheg ar y tro i unrhyw un oedolyn.