Mewnosod rheoliad newydd 7A (canllawiau CNC)9
Ar ôl rheoliad 7 (pecynwaith cartref), mewnosoder—
Canllawiau CNC7A
1
Rhaid i CNC ddarparu canllawiau at ddibenion rheoliad 7 (pecynwaith cartref)—
a
ar y dystiolaeth y caiff cynhyrchydd ei defnyddio i ddangos bod pecynwaith cynradd neu becynwaith cludo yn cael ei gyflenwi i fusnes neu sefydliad cyhoeddus sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn ddefnyddiwr terfynol y pecynwaith;
b
ynghylch pan fydd—
i
cynnyrch i’w drin fel pe bai wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio gan fusnes neu sefydliad cyhoeddus yn unig, a
ii
pecynwaith ar gyfer y cynnyrch hwnnw i’w drin fel pecynwaith nad yw’n rhesymol debygol o gael ei waredu mewn bin cartref neu fin cyhoeddus.
2
Caiff CNC ystyried y ffactorau a ganlyn wrth lunio canllawiau o dan baragraff (1)(b)—
a
maint y pecynwaith;
b
pwysau’r pecynwaith;
c
a yw cyflenwi cynnyrch yn ddarostyngedig i gyfyngiadau a osodir gan neu o dan ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth;
d
pa mor hawdd yw hi i dreuliwr gael gafael ar gynnyrch neu ei becynwaith;
e
a yw cynnyrch yn debygol o gael ei ddefnyddio gan fusnes mewn cartref;
f
unrhyw ffactor arall y mae CNC yn ystyried ei fod yn berthnasol.