RHAN 11Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau
Hylendid a rheoli heintiau48
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau—
a
safonau hylendid boddhaol wrth gyflenwi’r gwasanaeth;
b
bod gwastraff cyffredinol a chlinigol yn cael ei waredu’n briodol.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer rheoli heintiau a lleihau lledaeniad heintiau a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisïau hyn a’r gweithdrefnau hyn.