(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 1 Ionawr 2025, y darpariaethau a bennir yn yr erthygl honno.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 1 Ebrill 2025, y darpariaethau a bennir yn yr erthygl honno.