NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (sy’n nodi Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 1992) ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (sy’n nodi “Cynllun Pensiwn 2007”), i estyn y cyfnod y mae gan bersonau a gyflogid yng Nghymru fel diffoddwyr tân wrth gefn fynediad i gynllun pensiwn ynddo.

Diwygiwyd Cynllun Pensiwn 2007 gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014 i ddarparu i’r personau hynny a gyflogid yng Nghymru fel diffoddwyr tân wrth gefn yn ystod y cyfnod o 1 Gorffennaf 2000 hyd 5 Ebrill 2006 yn gynhwysol fynediad i gynllun pensiwn ar gyfer y cyfnod hwnnw. Mae’r Gorchymyn hwn yn estyn y cyfnod hwnnw fel y gall ddechrau o 7 Ebrill 2000, neu, mewn achosion pan fo person wedi ei gyflogi fel diffoddwr tân wrth gefn ar 7 Ebrill 2000 ac wedi dechrau’r gyflogaeth honno gyntaf ar ddyddiad cynharach, mae’r Gorchymyn hwn yn estyn y cyfnod hwnnw fel ei fod yn dechrau ar y dyddiad cynharach hwnnw (“y cyfnod cyfyngedig estynedig”).

Mae Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn 2007.

Mae paragraffau 1 a 2 yn diwygio Rhannau 1 (enwi a dehongli) a 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol) o Gynllun Pensiwn 2007 i ddarparu ar gyfer y cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraff 3 yn diwygio Rhan 3 (dyfarndaliadau personol) o Gynllun Pensiwn 2007 i ddarparu ar gyfer ceisiadau am ailgyfrifiadau o ddyfarndaliadau ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd pan fo person yn prynu gwasanaeth mewn perthynas â’r cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraff 4 yn mewnosod rheolau newydd 1B ac 1C yn Rhan 5 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth) o Gynllun Pensiwn 2007 i ddarparu ar gyfer dyfarnu grantiau marwolaeth mewn perthynas â’r cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraff 5 yn gwneud mân ddiwygiadau i Ran 10 (gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy) o Gynllun Pensiwn 2007 i adlewyrchu’r cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraff 6 yn mewnosod rheolau newydd 5B, 5C, 6D a 6E yn Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol) o Gynllun Pensiwn 2007. Maent yn darparu ar gyfer prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig ac yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â thaliadau i awdurdod ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.

Mae paragraff 7 yn diwygio Rhan 12 (trosglwyddiadau i mewn ac allan o’r Cynllun) o Gynllun Pensiwn 2007 ac yn mewnosod rheolau 19 ac 20 yn y Rhan honno, i ddarparu ar gyfer trosi gwasanaeth a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig. Mae hefyd yn darparu ar gyfer achosion pan fo penderfyniad trosi wedi ei wneud yn flaenorol, a phan fo gwasanaeth bellach yn cael ei brynu yn ystod y cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae paragraffau 8 a 9 yn diwygio Rhan 14 (talu dyfarndaliadau) ac Atodiad 1 (pensiynau afiechyd) o Gynllun Pensiwn 2007 yn y drefn honno i wneud darpariaeth mewn perthynas â’r cyfnod cyfyngedig estynedig.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiad canlyniadol i Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 1992, a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007. Mae Atodlen 2 yn diwygio Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw i ganiatáu gwneud dyfarndaliadau mewn perthynas ag anaf a gafwyd tra bo person yn cyflawni dyletswyddau penodol heblaw ymladd tân o dan gyflogaeth eilaidd dros dro gyda’r un awdurdod tân ac achub. Yn yr achosion hynny, bydd unrhyw anaf yn cael ei drin fel pe bai yn anaf a gafwyd o dan brif gyflogaeth y person, ac o ganlyniad bydd dyfarndaliad yn seiliedig ar wasanaeth a thâl o dan y brif gyflogaeth honno. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu, pan fo person yn cyflawni dyletswyddau o dan gyflogaeth eilaidd wrth gefn gyda’r un awdurdod tân ac achub, y caiff unrhyw anaf ei drin fel pe bai’n anaf a gafwyd o dan gyflogaeth reolaidd y person. Ystyr hwn yw y bydd dyfarndaliad yn seiliedig ar wasanaeth a thâl y person o dan y contract gwasanaeth rheolaidd hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.