- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
4.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i berson (P) sydd, yn union cyn 29 Tachwedd 2024, wedi ei gofrestru i gynnal—
(a)y gwaith o aciwbigo(1);
(b)y busnes o datŵio, rhoi lliw lled-barhaol ar y croen, tyllu cosmetig neu electrolysis(2).
(2) Gydag effaith o 29 Tachwedd 2024, bernir bod P yn rhoi triniaeth arbennig o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig (y cyfeirir ati yn yr erthygl hon fel “trwydded drosiannol”).
(3) Mae trwydded drosiannol i’w thrin at ddibenion yr erthygl hon fel pe bai’n dod i ben—
(a)ar 1 Mawrth 2025 os yw P yn methu â gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig ar neu cyn 28 Chwefror 2025, neu
(b)os yw P yn gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig ar neu cyn 28 Chwefror 2025—
(i)ar y dyddiad y rhoddir y drwydded triniaeth arbennig, neu
(ii)ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o benderfyniad i wrthod y cais am drwydded triniaeth arbennig (ac eithrio y bydd y drwydded drosiannol yn parhau i gael effaith, pan fo sylwadau wedi eu cyflwyno, neu pan fo apêl wedi ei gwneud, mewn perthynas â’r penderfyniad i wrthod yn unol â darpariaethau perthnasol y Ddeddf, hyd nes bod apêl wedi ei phenderfynu’n llawn, wedi ei thynnu’n ôl neu hyd nes y rhoddir y gorau iddi).
(4) Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw darfodiad trwydded drosiannol o dan baragraff (3)(a) o’r erthygl hon i’w drin fel pe bai’r drwydded drosiannol wedi ei dirymu ac nid yw’n arwain at hawl i apelio o dan Atodlen 3 i’r Ddeddf.
(5) Nid yw’r rhwymedigaeth ar awdurdod lleol i gynnal a chyhoeddi cofrestr fel y nodir yn adran 75 o’r Ddeddf (dyletswydd i gynnal cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd) yn gymwys mewn perthynas â thrwyddedau trosiannol.
Gweler adran 14(1) o Ddeddf 1982 am ystyr person sydd wedi ei gofrestru i gynnal y gwaith o aciwbigo.
Gweler adran 15(1) o Ddeddf 1982 am ystyr person sydd wedi ei gofrestru i gynnal y busnes o datŵio, rhoi lliw lled-barhaol ar y croen, tyllu cosmetig neu electrolysis.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: