- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 7(3)
1.—(1) Ni chaiff deiliad y drwydded ond rhoi triniaeth arbennig y mae wedi ei drwyddedu i’w rhoi yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd a bennir ar ei drwydded (oni bai bod eithriadau’n gymwys).
(2) Ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig mewn mangre a gymeradwywyd neu mewn cerbyd a gymeradwywyd, nac mewn unrhyw ran ohoni neu ohono, os oes risg, neu os yw’n debygol y bydd risg, o niwed i iechyd dynol.
(3) Ni chaiff deiliad y drwydded ond rhoi’r driniaeth arbennig yn y fath fodd sy’n lleihau’r risg o niwed i iechyd dynol.
(4) Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflawni gweithgareddau mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth arbennig mewn ffordd nad yw’n mynd yn groes i’r dystysgrif gymeradwyo (gan gynnwys yr amodau cymeradwyo mandadol) a ddyroddwyd mewn perthynas â’r fangre neu’r cerbyd a nodir yn y drwydded triniaeth arbennig.
2.—(1) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod Rhan 1 neu Ran 2 o’i drwydded triniaeth arbennig yn cael ei harddangos mewn safle sy’n galluogi cleientiaid ac aelodau o’r cyhoedd i’w darllen yn hawdd.
(2) Rhaid i gopi o’r amodau trwyddedu mandadol cymwys fod ar gael yn rhwydd ar gais gan swyddog awdurdodedig neu gleient.
(3) Ni chaniateir addasu’r drwydded triniaeth arbennig mewn unrhyw ffordd a rhaid iddi barhau i fod yn ddarllenadwy.
(4) Mewn achos pan fo’r drwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, rhaid i ddeiliad y drwydded wneud cais, o fewn cyfnod rhesymol, i gael un newydd yn ei lle oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.
(5) Os caiff deiliad y drwydded ei euogfarnu o drosedd berthnasol yn ystod cyfnod y drwydded, rhaid i ddeiliad y drwydded hysbysu’r awdurdod lleol sy’n dyroddi ar unwaith am yr euogfarn. Rhaid i’r hysbysiad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys dyddiad yr euogfarn, manylion y drosedd berthnasol, y ddedfryd neu’r gosb a roddwyd (gan gynnwys hyd unrhyw ddedfryd) ac unrhyw wybodaeth arall sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.
(6) Pan ddaw’r drwydded triniaeth arbennig i ben, rhaid dychwelyd y drwydded sydd wedi dod i ben i’r awdurdod lleol sy’n dyroddi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir gan yr awdurdod hwnnw.
3.—(1) Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i gleient os yw’n amau nad yw’r cleient yn ffit ac yn iach.
(2) Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i unigolyn sy’n feddw, neu yr ymddengys ei fod yn feddw, pa un ai yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall.
(3) Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal ymgynghoriad â’r cleient a, phan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, â rhiant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, cyn rhoi’r driniaeth arbennig. Rhaid i’r ymgynghoriad hwn fod ar ffurf ffurflen ysgrifenedig ar gyfer ymgynghori â chleientiaid a rhaid i’r ffurflen honno gynnwys y canlynol—
(a)enw llawn y cleient,
(b)datganiad sy’n cadarnhau bod deiliad y drwydded wedi gwirio oedran y cleient,
(c)manylion cyswllt y cleient,
(d)esboniad llawn o’r broses, y risgiau a’r gwrtharwyddion sy’n gysylltiedig â’r driniaeth arbennig,
(e)esboniad o effeithiau cymdeithasol triniaeth arbennig a roddir ar wyneb neu wddf y cleient (os yw’n gymwys),
(f)hanes meddygol perthnasol y cleient, gan gynnwys cyflyrau iechyd arwyddocaol neu berthnasol fel clefyd y galon, epilepsi, diabetes, cyflyrau sy’n peryglu imiwnedd, alergeddau, beichiogrwydd a manylion meddyginiaeth ragnodedig gan gynnwys gwrthgeulyddion,
(g)cofnod a yw cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig (ac, os felly, gadarnhad bod deiliad y drwydded wedi ei fodloni bod yr anesthetig argroenol wedi ei gymeradwyo a’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd(1)), ac
(h)esboniad o’r cyngor ôl-ofal ar gyfer y driniaeth arbennig a roddir.
(4) Rhaid i’r ffurflen ymgynghori â chleientiaid sydd wedi ei llenwi gael ei llofnodi gan ddeiliad y drwydded a’i chydlofnodi gan y cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, gan riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient.
(5) Pan nodir unrhyw wrtharwyddion yn ystod yr ymgynghoriad â chleient, ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig oni bai bod deiliad y drwydded wedi ei fodloni bod modd rhoi’r driniaeth arbennig yn ddiogel o hyd. Os oes gan ddeiliad y drwydded unrhyw bryderon ynghylch iechyd y cleient, ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig nes ei fod wedi cael cyngor meddygol neu gymeradwyaeth gan ymarferydd cyffredinol neu feddyg ymgynghorol y cleient. Rhaid cynnwys copi o’r wybodaeth hon yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient.
(6) Cyn ac ar ôl rhoi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded roi cyfle i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, i ofyn unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r driniaeth arbennig a’r cyngor ôl-ofal.
(7) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod cyngor ôl-ofal yn cael ei ddarparu i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient. Rhaid defnyddio iaith glir wrth ddarparu’r cyngor hwn a rhaid iddo fod mewn fformat hawdd ei ddeall. Rhaid ei roi ar lafar ac yn ysgrifenedig i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, a rhaid iddo gynnwys manylion cyswllt deiliad y drwydded a roddodd y driniaeth arbennig. Rhaid cynnwys copi o’r cyngor yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient.
4.—(1) Rhaid i ddeiliad y drwydded ddal gafael ar gofnodion ysgrifenedig mewn perthynas â’r cleient am 3 blynedd gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir y driniaeth arbennig. Rhaid i’r cofnodion hyn gynnwys copi o’r ffurflen ymgynghori â chleientiaid wedi ei llenwi a’i llofnodi.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded gadw a chynnal cofrestr o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig gan ddeiliad y drwydded. Rhaid i’r gofrestr hon gynnwys y canlynol—
(a)dyddiad y digwyddiad,
(b)manylion y digwyddiad,
(c)enw a manylion cyswllt y cleient neu berson arall (a all gynnwys deiliad y drwydded) a roddodd wybod am y digwyddiad, a
(d)unrhyw gamau adfer a gymerwyd gan ddeiliad y drwydded i atal hyn rhag digwydd eto.
(3) Rhaid i ddeiliad y drwydded gofrestru’r digwyddiad a chymryd unrhyw gamau adfer o fewn cyfnod resymol.
(4) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod ganddo sicrwydd yswiriant drwy’r amser yn ystod cyfnod ei drwydded. Rhaid i dystiolaeth o sicrwydd yswiriant dilys fod ar gael yn rhwydd i’w harolygu gan unrhyw swyddog awdurdodedig.
5.—(1) Rhaid i ddeiliad y drwydded barhau i ddatblygu, diweddaru a chynnal ei wybodaeth am atal a rheoli heintiau a’i sgiliau o ran pob triniaeth arbennig y mae wedi ei drwyddedu i’w rhoi. Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal cofnod ysgrifenedig o’r modd y mae wedi bodloni’r gofyniad hwn.
(2) Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i unigolyn pan fo’r driniaeth wedi ei pheryglu, neu’n debygol o gael ei pheryglu, gan y ffaith ei fod ef ei hun yn feddw yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall.
(3) Ni chaiff deiliad y drwydded ysmygu, fepio, bwyta bwyd nac yfed diod yn y man gwaith triniaethau arbennig.
(4) Rhaid i ddeiliad y drwydded arfer hylendid dwylo rheolaidd a thrylwyr.
(5) Rhaid i ewinedd deiliad y drwydded fod yn lân, heb estyniadau ewinedd, farnais nac addurn.
(6) Rhaid i ddeiliad y drwydded orchuddio unrhyw glwyfau agored, briwiau neu gornwydydd ar ran o’i gorff nad yw wedi ei gorchuddio â dresin anathraidd.
(7) Rhaid newid unrhyw gyfarpar diogelu personol untro, tafladwy, rhwng pob cleient neu pan fydd egwyl wrth roi’r driniaeth arbennig.
(8) Os yw’n ofynnol defnyddio rasel yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau mai dim ond raseli untro tafladwy a ddefnyddir.
(9) Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal asesiad gweledol o gyflwr croen y cleient lle y mae’r driniaeth arbennig i’w rhoi, a dihalogi’r croen cyn rhoi’r driniaeth arbennig.
(10) Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig ar groen nad yw’n gyflawn neu pan fo tystiolaeth o niwed, crafiad neu haint.
(11) Ni chaiff deiliad y drwydded gyflenwi anesthetigau argroenol i gleient, na’u dodi arno, cyn, yn ystod nac ar ôl triniaeth arbennig.
(12) Ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig—
(a)os yw deiliad y drwydded wedi cael gwybod bod y cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig, nad yw wedi ei gymeradwyo na’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, neu
(b)os yw’r cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig ac nad yw deiliad y drwydded wedi cael digon o dystiolaeth bod yr anesthetig argroenol wedi ei gymeradwyo a’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.
(13) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod ei weithfan yn cael ei glanhau a’i diheintio’n effeithiol rhwng pob cleient pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol, neu pan fo halogiad o’r fath yn debygol.
(14) Rhaid i bob triniaeth arbennig gael ei rhoi mewn amgylchedd preifat sy’n briodol ar gyfer y driniaeth arbennig a roddir.
(15) Ni chaiff deiliad y drwydded ond caniatáu i gleient ddod ag unigolyn arall gydag ef os nad yw presenoldeb yr unigolyn arall hwnnw yn ystod y driniaeth arbennig yn peri risg uwch o haint.
(16) Ni chaiff deiliad y drwydded ganiatáu i anifeiliaid ddod i’r man gwaith triniaethau arbennig ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig sy’n dod gyda chleient.
6.—(1) Mae unrhyw osodiad neu ddodrefnyn a ddefnyddir gan y cleient wrth roi’r driniaeth arbennig iddo i’w orchuddio â dalen bapur dafladwy, lliain neu gyffelyb, sydd i’w newid rhwng pob cleient pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl osodiadau, ffitiadau a dodrefn sy’n gysylltiedig â’i weithfan wedi eu gwneud o ddeunydd difandwll a’u bod mewn cyflwr da i alluogi gwaith glanhau effeithiol a, phan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol, waith diheintio effeithiol.
7.—(1) Rhaid i’r holl gyfarpar, offerynnau a chynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded—
(a)cael eu defnyddio a’u cynnal yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a
(b)cael eu gwasanaethu’n a’u dilysu’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a rhaid cadw a chynnal yr holl gofnodion gwasanaethu a dilysu ar gyfer eu harolygu gan swyddog awdurdodedig.
(2) Rhaid i’r holl offerynnau a chyfarpar a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded fod wedi eu gwneud o ddeunydd difandwll y gellir ei lanhau, ei ddiheintio a, phan fo’n briodol, ei sterileiddio yn hawdd.
(3) Rhaid cadw offerynnau a chyfarpar mewn cyflwr da i alluogi gwaith glanhau effeithiol a rhaid eu defnyddio a’u storio mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o halogiad.
(4) Ni chaiff deiliad y drwydded byth ailddefnyddio nac ailbrosesu eitemau untro.
(5) Ni chaiff deiliad y drwydded ond defnyddio nodwyddau di-haint, untro, tafladwy.
(6) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau, o ran unrhyw gyfarpar nad yw’n dafladwy, na ellir ei sterileiddio, ac sy’n debygol o ddod i gysylltiad â hylifau corfforol neu safle’r driniaeth arbennig, nad yw’n dod i gysylltiad o’r fath. Rhaid glanhau a diheintio cyfarpar o’r fath yn drylwyr ar ôl pob defnydd.
(7) Os defnyddir offerynnau nad ydynt yn rhai tafladwy wrth roi triniaeth arbennig a’u bod yn debygol o ddod i gysylltiad â hylifau corfforol neu safle’r driniaeth arbennig, ar ôl eu defnyddio rhaid i ddeiliad y drwydded lanhau a thrin yr offerynnau. Rhaid glanhau a thrin yr offerynnau â chyfarpar glanhau, diheintio a sterileiddio sy’n addas i’r diben megis glanhawyr uwchsain, baddonau offerynnau ac awtoclafau a chydau awtoclaf. Nid yw hyn yn gymwys i nodwyddau (gweler paragraff 7(5)).
(8) Rhaid sterileiddio unrhyw offeryn, unrhyw gyfarpar, unrhyw emwaith, neu unrhyw wrthrych sy’n cael ei atodi i groen neu bilen fwcaidd y cleient neu sy’n cael ei fewnblannu neu ei fewnosod yn ei groen neu ei bilen fwcaidd.
(9) Rhaid sterileiddio unrhyw offeryn neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i dynnu gemwaith neu wrthrych sydd wedi ei atodi i groen neu bilen fwcaidd y cleient neu sydd wedi ei fewnblannu neu ei fewnosod yn ei groen neu ei bilen fwcaidd.
(10) Rhaid i ddeiliad y drwydded allu cael gafael ar becyn cymorth cyntaf sydd wedi ei stocio’n addas, sydd ar gael yn rhwydd, i ddiwallu anghenion cymorth cyntaf y driniaeth arbennig a roddir.
8.—(1) Rhaid gwaredu pob offeryn miniog mewn bin offer miniog. Rhaid cadw a defnyddio’r bin offer miniog yn y man gwaith triniaethau arbennig.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod gwastraff domestig a gwastraff clinigol nad yw’n beryglus yn cael ei wahanu’n briodol a’i roi yn y bagiau lliw cywir. Rhaid i ddeiliad y drwydded wneud trefniadau ar gyfer gwaredu’r bagiau lliw hynny.
9. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “amodau cymeradwyo mandadol” (“mandatory approval conditions”) yw’r amodau y mae tystysgrif gymeradwyo yn ddarostyngedig iddynt;
ystyr “bin offer miniog” (“sharps bin”) yw cynhwysydd anhyblyg, arbenigol sy’n cydymffurfio â Chod CGE 20 01 99(2) ac sydd wedi ei gynllunio i waredu’n ddiogel offer miniog sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig;
ystyr “cleient” (“client”) yw person y rhoddir triniaeth arbennig iddo;
mae i “cyfnod y drwydded” (“licence period”), mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yr ystyr a roddir yn adran 59(8)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
ystyr “gweithfan” (“workstation”) yw’r rhan o’r man gwaith triniaethau arbennig sy’n cynnwys y canlynol—
gwely, cadair neu gyffelyb, y mae cleient yn eistedd neu’n gorwedd arno neu arni i gael triniaeth arbennig a roddir gan ddeiliad trwydded,
cadair neu stôl y mae deiliad y drwydded yn eistedd arni i roi’r driniaeth arbennig (os yw’n gymwys), ac
arwyneb gwaith a ddefnyddir ar gyfer gosod a storio’r offerynnau a’r cynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded i roi’r driniaeth arbennig;
ystyr “man gwaith triniaethau arbennig” (“special procedures work area”) yw ardal neu ystafell ddynodedig a ddefnyddir at ddiben rhoi triniaeth arbennig, ac o ran man gwaith triniaethau arbennig—
rhaid iddo gynnwys o leiaf—
1 weithfan,
1 basn golchi dwylo,
1 bin gwastraff,
1 bin offer miniog (os yw’n gymwys), a
caiff hefyd gynnwys cyfleusterau eraill a chyfarpar arall i gefnogi’r gwaith o roi’r driniaeth arbennig;
ystyr “mangre neu gerbyd a gymeradwywyd” (“approved premises or vehicle”) yw mangre neu gerbyd a gymeradwyir o dan adran 70(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig, gan yr awdurdod lleol;
ystyr “offer miniog” (“sharps”) yw gwrthrychau neu offerynnau sy’n gallu torri, crafu, pricio neu achosi anaf i’r croen ac mae’n cynnwys pob math o nodwydd a rasel untro;
ystyr “sicrwydd yswiriant” (“insurance cover”) yw polisi yswiriant dilys a ddyroddwyd gan yswiriwr awdurdodedig i yswirio deiliad y drwydded mewn cysylltiad ag atebolrwyddau, mewn cysylltiad â salwch, haint, anaf ac effeithiau andwyol eraill ar iechyd nad ydynt yn heintus (gan gynnwys adweithiau alergaidd), sy’n codi drwy roi triniaeth arbennig;
mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw trosedd a restrir yn adran 66(8) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
mae i “tystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate”) yr ystyr a roddir yn adran 70(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
ystyr “yswiriwr awdurdodedig” (“authorised insurer”), mewn perthynas â pholisi yswiriant, yw person a gaiff gynnal yn y Deyrnas Unedig y busnes o roi effaith i gontractau yswiriant, neu o gyflawni contractau yswiriant, o’r math a ddarperir o dan y polisi yswiriant.
Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn un o Asiantaethau Gweithredol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cod chwe digid yw Cod Catalog Gwastraff Ewropeaidd (“CGE”) a ddefnyddir i nodi gwastraff (gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus) fel y’i rhestrir yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd. Mae Cod CGE yn nodi (ymhlith pethau eraill) y rheolaethau sy’n gymwys i symud a rheoli’r gwastraff. Mae Cod CGE 20 01 99 yn ymwneud â gwastraff clinigol heintus a pheryglus fel y nodir ar dudalen 47, paragraff 4.99 o Femorandwm Technegol Iechyd Cymru. Gwelerhttps://nwssp.nhs.wales/ourservices/specialist-estates-services/specialist-estates-services-documents/whtms-library/whtm-07-01-safe-management-of-healthcare-waste-pdf/ (ar gael yn Saesneg yn unig).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: