xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol (EUR 2019/1793).

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth i ddiweddaru’r rhestrau o fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid yn Atodiadau 1 a 2 i EUR 2019/1793. Mae rheoliad 2(4) a (5), ac Atodlenni 1 a 2, yn amnewid yr Atodiadau hynny. Amnewidir Atodiad 1 drwy ddefnyddio pwerau yn Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (EUR 2017/625). Amnewidir Atodiad 2 drwy ddefnyddio pwerau yn Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (EUR 2002/178) ac Erthygl 54(4)(b) o EUR 2017/625.

Mae rheoliad 2(2), (3) a (6), ac Atodlen 3, yn diwygio EUR 2019/1793 i wneud darpariaeth mewn perthynas â samplu a dadansoddi ar gyfer y perygl Listeria. Nodir y weithdrefn samplu ragnodedig a’r dull cyfeirio dadansoddol rhagnodedig ar gyfer rheoli presenoldeb Listeria mewn bwyd yn yr Atodiad 3a newydd i EUR 2019/1793 (a fewnosodir gan reoliad 2(6) ac Atodlen 3).

Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/1330 (Cy. 269), i ddileu diwygiadau cynharach i EUR 2019/1793 a ddisodlir gan y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae Atodiad 1 i EUR 2019/1793 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n ddarostyngedig i gynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin neu mewn safleoedd rheoli ym Mhrydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 1 fel a ganlyn.

Yn Atodiad 2 i EUR 2019/1793, mae Tabl 1 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae amodau arbennig wedi eu rhagnodi ar eu cyfer sy’n rheoli eu mynediad i Brydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 2, Tabl 1, fel a ganlyn.

Yn Atodiad 2 i EUR 2019/1793, mae Tabl 2 yn cynnwys rhestr o fwyd cyfansawdd sy’n cynnwys unrhyw fwyd a restrir yn Nhabl 1 yn Atodiad 2 oherwydd y risg o halogi gan afflatocsinau mewn swm sy’n fwy na 20% o naill ai cynnyrch unigol neu swm y cynhyrchion hynny. Mae Tabl 2 yn cael ei ailddatgan heb unrhyw newidiadau.

Mae Atodiad 2a i EUR 2019/1793 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd wedi eu gwahardd rhag dod i Brydain Fawr. Nid oes unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i Atodiad 2a.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.